Ewch i’r prif gynnwys

Mapio bywyd y Bwdha: Ail-greu Llwybr Xuanzang

15 Rhagfyr 2022

Mae arbenigwyr mewn archaeoleg ac astudiaethau crefyddol yn dilyn yn ôl troed teithiwr Bwdhaidd cynnar enwog dylanwadol o Tsieina

Mae prosiect dyniaethau rhyngddisgyblaethol cyffrous yn trawsnewid dealltwriaeth o Fwdhaeth ganoloesol gynnar drwy nodi'r lleoedd a'r safleoedd  a ddaeth yn enwog drwy ysgrifennu a theithiau'r mynach Bwdhaidd o Tsieina Xuanzang.

Mae prosiect Llwybr Xuanzang yn dwyn ynghyd archwiliad achaeolegol a sylwebaeth Saesneg newydd o Cofnod o’r Rhanbarthau Gorllewinol ganXuanzang, gydag effaith gadarnhaol ar y byd academaidd, treftadaeth a thwristiaeth.

Yn y 7fed ganrif, cwblhaodd y mynach Xuanzang (AD 600 - 663)  siwrnai epig er mwyn teithio  i gadarnle ei grefydd, Bwdhaeth, yn India, gan deithio dros 12,000 o filltiroedd ar y Ffordd Sidan o'i famwlad yn Tsieina i ymweld â mannau sanctaidd yn gysylltiedig â bywyd y Bwdha yn India, yn enwedig yn rhanbarth hynafol Magadha, yn ne Bihar ein cyfnod ni.

Mae ei gofnod o'r daith yn ddogfen ryfeddol, yn gofnod  cyfoethog o'r bobl, y tiroedd a'r arferion y daeth ar eu traws drwy gydol y daith hon dros un ar bymtheg o flynyddoedd (AD 629 to 645

). Yn ogystal â'i gofnod o'r daith, mae Xuanzang yn adnabyddus am ei gyfraniadau arwyddocaol i Fwdhaeth Tsieineaidd, gan gyfieithu myrdd o destunau Bwdhaidd yr oedd wedi dychwelyd o India gyda nhw i Tsieinëeg.

Yn ystod yr archwiliad diweddaraf hwn, llwyddodd yr Athro Astudiaethau Bwdhaidd Max Deeg, y Darllenydd mewn Gwyddor Archeolegol Dr Richard Madgwick , yr archeolegydd maes Dr Arun Kumar a thirfesurydd y prosiect Ravinder Joshi, i adnabod safleoedd archeolegol yn Bihar, gogledd-ddwyrain India,fel lleoedd y soniodd Xuanzang amdanynt. Bu'r bio-archeolegydd a'r arbenigwr esgyrn Madgwick hefyd yn edrych ar esgyrn dynol ac anifeiliaid a gafwyd o safle mynachod Telhara, i'r de o Patna.

Mae'r tîm wedi dilysu'r safleoedd archaeolegol a grybwyllir yng nghofnod Xuanzang, gan adnabod safleoedd y cyfeiriwyd atynt gan y mynach oedd cyn hynny'n anhysbys.

Ym mis Tachwedd aethant ati i archwilio'r ardal oddi mewn i ddau safle treftadaeth y byd UNESCO ac o’u cwmpas: Bodhgayā - safle goleuedigaeth y Bwdha a safle mynachaidd archaeolegol Nālandā, sy'n adnabyddus fel y brifysgol hynaf yn y byd, yn ogystal â safleoedd yn Rājgir, prifddinas fwyaf hynafol teyrnas Magadha.

Mae'r cylch diweddaraf yn y prosiect cydweithredol yn adeiladu ar deithiau cychwynnol i chwilota'r safle gan y tîm archeolegol yn Patna.

Ag yntau newydd ddychwelyd o'r daith archwiliadol ddiweddaraf lle bu hefyd yn traddodi darlith ar effaith cofnod taith Xuanzang ar astudiaethau India Ganoloesol gynnar ym Mhrifysgol Patna, dywedodd cyd-gyfarwyddwr y prosiect yr Athro Deeg:

'Un o nodau'r prosiect yw hyrwyddo ymwybyddiaeth treftadaeth mewn cymunedau lleol, cymdeithas ehangach Bihar a thu hwnt drwy sefydlu llwybr Xuanzang yn Bihar. Bydd hwn yn chwarae rhan bwysig yn datblygu twristiaeth a phererindod Fwdhaidd yn Bihar a bydd iddo fuddion i'r economi leol, yn codi'n uniongyrchol o ymchwil y prosiect.'

Dechreuodd prosiect Llwybr Xuanzang yn 2020, ac mae'n gydweithrediad rhyngwladol rhwng Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Datblygu Treftadaeth Bihar (BDHS) yn India, dan arweiniad yr Athro Deeg a chyfarwyddwr gweithredol BDHS Dr Bijoy Choudhury, oedd yn bosibl drwy gymorth a chyllid hael gan y Gymdeithas.

Bydd taith archwilio nesaf y tîm yn canolbwyntio ar y rhanbarthau i'r gogledd o afon Ganges yn Bihar yn ystod gwanwyn 2023.

Rhannu’r stori hon