Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen GIRO-ZERO yn trosglwyddo gwybodaeth arbenigol ar ddatgarboneiddio logisteg

15 Rhagfyr 2022

A group of about 20 people stood up smiling dressed smartly
Delegates with staff from Cardiff Business School

Yn ddiweddar cynhaliodd prosiect GIRO-ZERO raglen wythnos o hyd a ddaeth â chynrychiolwyr diwydiant ac arbenigwyr o’r DU a Colombia ynghyd.

Nod y prosiect yw cyflymu gwaith adnewyddu a thechnolegau cerbydau i leihau'r milltiroedd a deithir, y tanwydd a ddefnyddir, a'r CO2e a allyrrir gan gerbydau'n gweithredu yn y sector cludo nwyddau ar ffyrdd Colombia.

Arweinir GIRO-ZERO gan yr Universidad de los Andes, a ariennir gan raglen PACT y DU, Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) y DU ac mae'n gydweithrediad rhyngwladol â Phrifysgol Caerdydd.

Ym mis Hydref 2022, cynhaliwyd Rhaglen Meithrin Gallu Ryngwladol gyntaf GIRO-ZERO yn Llundain a Chaerdydd. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys buddiolwyr y prosiect, sefydliadau, a chynrychiolwyr diwydiant o Colombia. Yn ystod yr ymweliad, buont yn cyfarfod ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, Universidad de los Andes a chynrychiolwyr o lywodraeth a diwydiant y DU.

Roedd y rhaglen yn cynnwys trafodaeth mewn grwpiau lle cyfarfu’r rhai a oedd yn bresennol â thîm rheoli PACT y DU yn Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) y DU. Roedd hefyd yn cynnwys ymweliadau i gwmnïau Sainsbury's ac OCADO, diwrnod hyfforddi, a gweithdy a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd.

Amlygodd yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues, Prif Arbenigwr GIRO-ZERO a Phrif Ymchwilydd y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Roedd llunwyr polisïau Colombia a chynrychiolwyr y diwydiant yn teimlo bod yr ymweliad wedi bod yn llawer gwell na’r disgwyl.” Cawsant gyfle i gyfnewid barn arbenigol gyda’u cymheiriaid, ymweld ag Ocado a Sainsbury’s, dau adwerthwr blaenllaw yn y DU, cael rhagflas ar yr hyfforddiant y bydd GIRO-ZERO yn ei ddarparu yng Ngholombia, a chyfrannu at weithdy a ddaeth â’r wythnos wych hon i ben."

Yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues Professor in Sustainable Supply Chain Management

“Yn ystod yr hyfforddiant cawsom ddadl am heriau’r sector cludo nwyddau ar hyd y ffyrdd yng Ngholombia, a chynigiwyd atebion. Roedd y diwrnod yn gynhyrchiol iawn. Daethom i’r casgliad mai dull sy’n cael ei yrru gan ddata, ynghyd â chyfnewid gwybodaeth, yw’r ffordd ymlaen i gefnogi gwneud penderfyniadau ar gyfer gwahanol randdeiliaid, gan eu helpu i gyflawni eu nodau a’u hamcanion gwyrdd”.

Dr Wessam M.T. Abouarghoub Reader in Logistics and Operations Management

Daeth yr ymweliad i ben gyda gweithdy ar ddatgarboneiddio cludo nwyddau ar y ffyrdd. Roedd yn cynnwys prif gyflwyniadau gan Ricardo plc, Llywodraeth Cymru, Adran Drafnidiaeth y DU, a thrafodaeth banel ar y map ffordd datgarboneiddio cynnar y mae’r ddwy wlad yn dechrau.

Dywedodd yr Athro Emrah Demir, Prif Arbenigwr GIRO-ZERO, a arweiniodd y gweithdy:

“Daeth y gweithdy hybrid â llunwyr polisïau, arbenigwyr diwydiant ac academyddion i rannu profiad a thrafod y camau nesaf ar gyfer cyflawni datgarboneiddio cludo nwyddau ar y ffyrdd. Gan arddangos cyflawniad presennol prosiect GIRO-ZERO, mae'r gweithdy wedi llwyddo i gynyddu'r ddealltwriaeth a'r wybodaeth am ddatgarboneiddio cludo nwyddau ar y ffyrdd.”

Yr Athro Emrah Demir Professor of Operational Research, The PARC Professor of Manufacturing and Logistics, Deputy Head of Section (Learning and Teaching)

Cyflawnodd yr ymweliad dair carreg filltir:

  • Trosglwyddwyd gwybodaeth arbenigol ar ddatgarboneiddio cludo nwyddau ar y ffyrdd i fuddiolwyr a phartneriaid strategol y prosiect.
  • Cododd tîm y prosiect ymwybyddiaeth am gynhyrchion a chyfarpar GIRO-ZIRO.
  • Atgyfnerthodd GIRO-ZERO y berthynas â chynrychiolwyr o lywodraeth a diwydiant Colombia.

Dywedodd yr Athro Gordon Wilmsmeier, Arweinydd Prosiect GIRO-ZERO: “Fe wnaeth trafodaethau ysgogol a chyfnewid gwybodaeth ymhlith cynrychiolwyr o’r DU a Colombia wella dealltwriaeth o’r gweledigaethau a’r llwybrau gweithredu tuag at allyriadau sero. Roedd yn arbennig o ddiddorol gweld sut y gwnaeth yr ymweliad helpu i fyfyrio ar y cynnydd a chyflwr y sector yng Ngholombia, i gydnabod bod mentrau a syniadau gwych yn y wlad y dylid eu troi’n gamau gweithredu.”

Cydlynwyd y digwyddiad gan gydweithwyr o Ysgol Busnes Caerdydd ac Universidad de los Andes – Colombia. Roedd yn ymweliad llwyddiannus â’r DU. Hoffai GIRO-ZERO roi diolch arbennig i bwyllgor trefnu'r ymweliad:

Yr Athro Emrah Demir, Dr Wessam Abouarghoub, Andrés Rey, Cristiam Gil, Alejandra Laverde, Ana Lucía Ricaurte, Luisa Spaggiari, Camila Faride Cubillos, Helen Whitfield, Angharad Kearse a'r Athro Vasco Sanchez Rodrigues.

Bydd GIRO-ZERO yn trefnu digwyddiadau yn y dyfodol i gynhyrchu a throsglwyddo gwybodaeth am ddatgarboneiddio logisteg. Mae'r rhaglen ddiweddar wedi bod yn sail ar gyfer cydweithredu rhwng y llywodraeth, diwydiant ac ymchwilwyr cymhwysol o Colombia a'r DU.

A group of people outside wearing hi-vis vests
Delegates visiting Sainbury's

Rhannu’r stori hon