Ewch i’r prif gynnwys

Fideo: Brittle with Relics

7 Rhagfyr 2022

Daeth cynulleidfa lawn ynghyd yn adeilad y Pierhead i glywed yr awdur Richard King yn traddodi Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2022.

Wrth siarad am ei lyfr clodwiw Brittle with Relics (Faber), amlinellodd King hanes protestio poblogaidd yng Nghymru yn y degawdau cyn refferendwm datganoli 1997.

Siaradodd Jane Hutt, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, i gyflwyno’r ddarlith ac i sôn am ei rhan yn y mudiadau ffeministaidd a gwrth-arfau niwclear a luniodd wleidyddiaeth flaengar yng Nghymru.

Gwyliwch y fideo llawn isod.

Rhannu’r stori hon