Ewch i’r prif gynnwys

Pam mae'n hen bryd i MOBO gydnabod metel, pync, roc ac emo

6 Rhagfyr 2022

Georgia South (chwith) ac Amy Love (dde)
Y ddeuawd roc o Loegr, Nova Twins: Georgia South (chwith) ac Amy Love (dde). Nova Twins Ltd, CC BY-NC-SA
Nova Twins Ltd, CC BY-NC-SA

Gan Francesca Sobande

Mae cerddoriaeth amgen wedi bod yn cael sylw – o lwyddiant ail-argraffu recordiau finyl gan fandiau o ddyddiau a fu i’r cyhoeddiad am yr ŵyl Sick New World sy'n cynnwys rhestr o eiconau cerddoriaeth amgen.

Yna yn 2022 cyflwynwyd categori "cerddoriaeth amgen" yng Ngwobrau MOBO, seremoni wobrwyo cerddoriaeth Brydeinig flynyddol sy'n dathlu cyflawniadau ynglŷn â cherddoriaeth ddu.

Mae hanfod y genre hwn yn cynnwys artistiaeth a thalent llawer o gerddorion du, ysbryd DIY pyncs du, a phŵer dyfalbarhad menywod du mewn metel trwm, y mae'n hen bryd cydnabod eu cyfraniad sylweddol at y diwydiant cerddoriaeth.

Fel mae’r podlediad On Wednesdays We Wear Black (sy’n ymdrin â “...phopeth o ryw, hiliaeth a chyngherddau i ffasiwn emo myspace”) yn atgoffa ei wrandawyr, mae hanes du cyfoethog i gerddoriaeth amgen.

Ers 1996, mae Gwobrau MOBO wedi'u neilltuo i anrhydeddu cerddoriaeth ddu yn erbyn cefndir diwydiant cerddoriaeth a chyfryngau Prydain sy’n wyn yn bennaf. Ac mae hyn yn codi'r cwestiwn: pam mae wedi cymryd cyhyd i gyflwyno categori "cerddoriaeth amgen"?

O'r ymylon i'r brif ffrwd?

Fel y nodir gan yr ystod o enwebeion ar gyfer Gwobr "cerddoriaeth amgen" gyntaf MOBO (Big Joanie, Bob Vylan, Kid Bookie, Loathe, Nova Twins, Skunk Anansie), mae cerddorion amgen du wedi bod yn weithredol ers degawdau ac wedi ysbrydoli a chefnogi'r perfformwyr newydd hyn.

With a shaved head and bold black and white jacket, Skin sings into a microphone.

Mae Skin, prif ganwr y band roc Skunk Anansie, yn perfformio yn Lisbon.
Mario Cruz

Heb os, mae cerddoriaeth amgen ddu yn rhan o hanes pobl dduon, ond mae'r genre yn parhau i fod yn gysylltiedig â phobl wyn. Anaml y caiff menywod du yn benodol eu cydnabod am eu gwaith yn y genre hwn, oherwydd goruchafiaeth bandiau gwyn a bandiau dynion i gyd ym myd cerddoriaeth amgen prif ffrwd, fel emo.

Bob Vylan pose wearing an Arsenal shirt and black rock t-shirt.
Y deuawd grime/pync roc/hip hop o Ipswich, Bob Vylan, yw un o'r perfformwyr a enwebwyd yng nghategori amgen cyntaf MOBO.
IthakaDarinPappas, CC BY-SA

Mae’r cylchgrawn hanes cerddoriaeth roc yn tynnu sylw at y ffaith fod cerddorion amgen du wedi bodoli’n aml ar ymylon y brif ffrwd, ac mae cerddoriaeth roc "dda" yn aml wedi bod yn gysylltiedig â gwaith dynion gwyn.

Nid oes dim mwy amgen na dyfalbarhau er gwaethaf cael eich diystyru gan y status quo (gan gynnwys status quo sy'n ystyried ei hun fel "amgen"). Dyna’n union beth mae cerddorion amgen du wedi’i wneud trwy feithrin seiniau ac arddulliau sy'n well na rhagdybiaethau hiliol, rhywiaethol, a homoffobig am bwy a beth yw cerddoriaeth amgen.

Sicrhau newid

I bob pwrpas mae cerddorion amgen du wedi pwyso i gael dealltwriaeth ehangach o gerddoriaeth ac artistiaeth ddu ac mae'r gallu i dynnu sylw beirniadol at ddiwydiannau cerddoriaeth yn gyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol wedi helpu i ysgogi newid.

Er enghraifft, fe wnaeth y ddeuawd roc o Loegr, Nova Twins, ddefnyddio Twitter i alw am gyflwyno categori "roc/amgen" yng Ngwobrau MOBO 2020. Ymatebodd Gwobrau MOBO, gan ddweud: "Yn sicr mae roc a’r genre cerddoriaeth amgen â’i gwreiddiau mewn cerddoriaeth ddu ac mae cyfraniadau cerddorion talentog yn y maes hwn yn haeddu cael eu dathlu ymhellach."

Mae ymdrechion artistiaid cerddoriaeth amgen du fel Nova Twins, a cherddorion ac ysgrifenwyr o'u blaenau, wedi arwain at fwy o gydnabyddiaeth am y genre eclectig hwn ac yn ein hatgoffa o le cerddoriaeth amgen ddu yn hanes pobl ddu.

Etifeddiaeth wedi'i dogfennu â chariad

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, roedd delweddau rhyfedd wedi’u cynhyrchu gan AI o bobl ddu mewn sîn cerddoriaeth amgen yn cael eu rhannu ar Twitter. Mewn ymateb, postiodd defnyddwyr Twitter luniau o bobl ddu go iawn mewn sinau cerddoriaeth amgen, fel Jada Pinkett Smith sydd yn y band metel newydd Wicked Wisdom ac sy’n rhiant i Willow Smith - eicon arall cerddoriaeth amgen.

Er ei fod yn dal i gael ei anwybyddu'n aml gan ddiwydiannau cerddoriaeth a chyfryngau prif ffrwd, mae hanes cerddoriaeth amgen ddu wedi cael ei ddogfennu â chariad a gofal gan bobl ddu ar-lein, gan gynnwys cyfrifon manwl Tina Bell, a elwir yn "The 'Black Godmother of Grunge".

Jada and Willow sit side by side at a fashion show, Jada in a white shirt and Willow in a futuristic grey bodysuit.

Mae Jada Pinkett Smith a'i merch Willow Smith yn gerddorion amgen nodedig ill dwy.
Etienne Laurent

Bydd cyflwyno categori "cerddoriaeth amgen" yng Ngwobrau MOBO yn cael ei ddathlu, ond mae cerddoriaeth amgen ddu bob amser wedi ymwneud â llawer mwy nag un seremoni wobrwyo neu un person yn unig.

Gobeithio y bydd mwy o gydnabyddiaeth yn y dyfodol, ond mae un peth yn sicr - bydd y genre amgen du yn parhau i orymdeithio i guriad ei ddrwm ei hun ac yn cymryd camau breision mewn ffyrdd sy'n herio pob disgwyliad gormesol ohono. The Conversation

Francesca Sobande, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn The Conversation dan Drwydded Creative Commons Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Rhannu’r stori hon