Ewch i’r prif gynnwys

Chwyddiant uchel yn gwasgu cyllideb Cymru, yn ôl tîm Dadansoddi Cyllid Cymru

5 Rhagfyr 2022

Mae chwyddiant uchel wedi erydu gwerth cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru hyd at £800m yn 2023-24 a £600m yn 2024-25 – er gwaethaf cyllid ychwanegol o Ddatganiad yr Hydref – yn ôl adroddiad newydd gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru.

Heddiw lansiwyd adroddiad Rhagolwg Cyllideb Cymru gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd mewn digwyddiad briffio ar gyfer llunwyr polisi, ymchwilwyr a myfyrwyr.

Mae’r adroddiad yn dadansoddi’r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wrth iddi baratoi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24, fydd yn cael ei chyhoeddi ar 13 Rhagfyr.

Hyd yn oed ar ôl y cyllid ychwanegol o Ddatganiad yr Hydref, mae’r adroddiad yn dangos na fydd lefelau gwariant ar y GIG yn ddigonol i ddygymod â’r pwysau cyllidol yn sgil y pandemig.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio y gall cyflogau’r sector gyhoeddus gwympo o 7% mewn termau real dros ddwy flynedd. Bydd angen cynyddu gwariant ar gyflogau yng Nghymru o £288m yn 2023-24 o’i gymharu â chynlluniau gwreiddiol er mwyn cyllido’r setliadau tâl hyn hyd yn oed – swm sy’n cyfateb i gost tua 7,000 o weithwyr y sector cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu talcen caled wrth gydbwyso costau uwch a’r risgiau o gyfyngu twf mewn cyflogau – o broblemau recriwtio a chadw, gweithredu diwydiannol, a dirywiad mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Fel rhan o’r dadansoddiad, mae tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yn nodi y gallai pwerau trethu datganoledig gael eu defnyddio i gynyddu maint cyllideb Cymru. Byddai cynnydd o 1c ym mhob Cyfradd Treth Incwm Cymreig yn cynyddu refeniw o 1.4% y flwyddyn nesaf; byddai hyn yn lleihau’r swm a gollwyd o Gyllideb Cymru yn sgil chwyddiant uwch i tua £340m yn 2024-25.

Yn olaf, mae rhywfaint o newyddion da i lywodraeth leol. Gallai’r cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn Lloegr ddyblu’r cynnydd arfaethedig i setliad llywodraeth leol Cymru flwyddyn nesaf, o £175m i £360m. Ond mae’r ymchwilwyr yn rhybuddio y bydd cynlluniau gwariant cyhoeddus “llwm” tu hwnt i’r ddwy flynedd nesaf yn cynyddu maint y diffyg rhwng refeniw awdurdodau lleol a’r pwysau gwariant y maent yn eu hwynebu.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Rhannu’r stori hon