Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil adfer gwres gwastraff yn ennill Gwobr Telford Premium Prize

12 Rhagfyr 2022

Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil i’r Amgylchedd a Gwastraff Ynni wedi ennill Gwobr Telford Premium Prize 2022 gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE).

Cafodd Dr Anthony Giles, Dr Daniel Pugh, yr Athro Phil Bowen, yr Athro Richard Marsh, a Dr Tim O'Doherty eu cydnabod am eu papur 'A Waste Heat Recovery Strategy and its deployment: An Integrated Steelworks Case Study a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn ICE 'Waste and Resource Management'.  

Enillodd y papur y wobr Telford Premium Prize, a ddyfernir i gydnabod papurau allweddol o blith holl gyfnodolion ICE y bernir eu bod o ansawdd eithriadol ac o fudd i'r gymuned peirianneg sifil.

Roedd yr ymchwil oedd yn sail i’r papur yn rhan o fuddsoddiad mawr gan TATA Steel (£1.1M) a roddwyd i’r Ganolfan Ymchwil i Wastraff Ynni a'r Amgylchedd (CREWE) ar gyfer lleihau ynni a gwastraff yng Ngwaith Dur integredig Port Talbot, a hynny ynghyd â chontract EPSRC sylweddol (£0.8M), ac roedd yn cynnwys rhaglen hyfforddi arobryn.

Mae'r papur buddugol yn disgrifio datblygiad cysyniadol a rhifiadol strategaeth adfer gwres gwastraff, gan ddefnyddio gweithfeydd mawr Port Talbot yn astudiaeth achos. Ar y safle hwnnw, ceir rhwydwaith cymhleth o systemau ynni integredig, sy’n cynnwys nwy sgîl-gynnyrch a stêm proses. Dangosodd ymchwil y gellid addasu ased presennol i fanteisio ar wres gwastraff i greu rhagor o stêm, er mwyn gwrthbwyso gofynion prosesau eraill, a’i bod hefyd yn bosib cynhyrchu trydan atodol o ganlyniad i hyn, o osod tyrbin pwrpasol. Yn y papur, trafodir y strategaeth arfaethedig a'i datblygiad, ynghyd â'r arbedion carbon deuocsid ac arbedion ynni a wnaed (amcangyfrifir ffigwr o 2.3 Mt sy’n cyfateb i £45 miliwn yn y drefn honno), dros y cyfnod cychwynnol o 6 mlynedd ers ei rhoi ar waith.

Gweithiodd nifer o raddedigion PhD ar y rhaglen, ac maent wedi parhau â'u hymchwil. Yn eu plith mae Dr Dan Pugh, a ddechreuodd yn ymchwilydd yn y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy (GTRC), yna ar gyfer prosiect FLEXIS ac ers hynny mae wedi'i benodi’n ddarlithydd yn yr Ysgol Peirianneg. Mae Dr Tony Giles yn ymchwilydd yn GTRC, wedi'i ariannu ar y cyd gan FLEXIS.

Cyflwynwyd y Wobr i Dr Tony Giles (GTRC, FLEXIS) gan Lywydd ICE, Ed McCann, ym Mhencadlys ICE yn Llundain ym mis Hydref 2022.

Rhannu’r stori hon