Ewch i’r prif gynnwys

Mae ffermwyr yn anfodlon brechu moch daear yn y frwydr yn erbyn TB buchol, yn ôl ymchwil

1 Rhagfyr 2022

Image of badger in woodland

Mae astudiaeth o bwys newydd wedi bod yn ymchwilio i agweddau ffermwyr a rhanddeiliaid o ran brechu gwartheg a moch daear yn erbyn twbercwlosis buchol.

Mae project a ariennir gan DEFRA dan arweiniad Prifysgol Swydd Gaerloyw ac a gynhaliwyd ar y cyd â’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a Grŵp Milfeddygol Kingshay wedi canfod, er bod y ffermwyr a’r rhanddeiliaid yn barod ar y cyfan i frechu gwartheg yn erbyn twbercwlosis buchol (bTB) pan fydd hyn yn fforddiadwy a pha fydd y goblygiadau masnachol yn glir, nad ydyn nhw’n fodlon brechu moch daear.

Gareth Enticott, Athro mewn Daearyddiaeth Ddynol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yw cyd-awdur yr adroddiad ac aelod o Grŵp Partneriaeth bTB Defra sy'n llunio polisi bTB ar y cyd.

Cynhaliwyd gweithdai gyda ffermwyr a rhanddeiliaid amaethyddol lle cyflwynwyd ystod o sefyllfaoedd posibl iddyn nhw. Ymhlith y rhain roedd sefyllfa orfodol, sefyllfa wirfoddol unigol, a sefyllfa lle mae grwpiau lleol yn rhoi'r brechlynnau.

Dyma’r hyn a ddywedodd yr Athro Damian Maye, prif awdur yr adroddiad ar frechu gwartheg, o Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned Prifysgol Swydd Gaerloyw (CCRI): "Roedd y ffermwyr a’r rhanddeiliaid amaethyddol ar y cyfan yn cefnogol brechu gwartheg, yn enwedig pan na fydd y brechu’n arwain at rwystrau o ran masnachu arferol.

"Dywedon nhw hefyd fod angen gwybodaeth glir arnyn nhw cyn y byddan nhw'n brechu gwartheg sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd y brechlyn i leihau nifer yr achosion o TB mewn gwartheg, y goblygiadau ar gyfer masnachu, costau'r brechlyn (gan gynnwys unrhyw gyfnod o ran cadw’r cig yn ôl), pa mor hyblyg fyddai amseru’r brechiadau a sut y byddai statws brechu da byw yn cael ei gofnodi a'i gyflwyno."

Roedd y ffermwyr hefyd yn dadlau y bydden nhw'n hoffi bod yn rhan o lunio unrhyw bolisi sy'n cyflwyno brechu gwartheg. Pe bai brechu'n mynd yn orfodol, roedd y ffermwyr o’r farn y byddai'n annheg iddyn nhw dalu tuag at frechu.

Gwrthododd y ffermwyr a’r rhanddeiliaid amaethyddol y syniad o frechu moch daear i reoli yn erbyn TB buchol, gan ffafrio brechu gwartheg yn lle hynny.

Dyma’r hyn a ddywedodd yr Athro Enticott: "Mae'r gwaith ymchwil hon wedi cyrraedd ar adeg ddiddorol i Defra a Llywodraeth Cymru. Gallai'r gwaith o ddatblygu brechlyn gwartheg ar gyfer twbercwlosis buchol drawsnewid nifer yr achosion o'r clefyd ledled Cymru a Lloegr. Ond mae'n codi cwestiynau ynghylch pwy sy'n gyfrifol am roi'r brechlyn a phwy sy'n talu amdano.

"Mae ein hymchwil yn dangos bod ffermwyr yn ystyried brechu gwartheg mewn ffordd gadarnhaol ond bod ganddyn nhw nifer o bryderon y byddai’n rhaid mynd i'r afael â nhw cyn y bydden nhw'n ystyried ei ddefnyddio. Ar ben hynny, maen nhw'n credu y dylai'r llywodraeth fod yn gyfrifol am dalu amdano. Os bydd Defra yn dewis ffordd wirfoddol o ymdrin â hyn, yna bydd yn rhaid iddyn nhw fynd i'r afael â phryderon ffermwyr ynghylch masnach ac effeithiolrwydd y brechlyn."

Prif argymhelliad yr adroddiad, os yw Defra a llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu strategaeth frechu i reoli TB buchol, yw bod angen ymgyrch gryf i ledaenu gwybodaeth ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod y ffermwyr a’r rhanddeiliaid yn fodlon cymryd rhan ynddi.

Rhannu’r stori hon