Ewch i’r prif gynnwys

Ymweliad gan Gadeirydd UKRI â Chaerdydd

28 Tachwedd 2022

Sir Andrew Mackenzie, chair, UKRI; Professor Colin Riordan, President and Vice Chancellor, Cardiff University, and Professor Roger Whitaker, Pro Vice-Chancellor for Research Innovation and Enterprise
O'r chwith i'r dde: Syr Andrew Mackenzie, cadeirydd, UKRI; Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd; Yr Athro Roger Whitaker, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter.

Bu Syr Andrew Mackenzie, cadeirydd Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), yn cwrdd ag ymchwilwyr blaenllaw yn ystod taith ddeuddydd o amgylch cyfleusterau blaengar Prifysgol Caerdydd.

Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu Syr Andrew â chyfarwyddwyr, arweinwyr academaidd a staff proffesiynol yn Media Cymru, y Ganolfan Arloesi Seiber, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) ac Arloesi Caerdydd, y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH), clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd, sef CSconnected a chyfarwyddwyr pedwar Sefydliad Arloesi newydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyfarfu hefyd â Chymrodyr Arweinwyr y Dyfodol UKRI yn ogystal â Deoniaid Ymchwil y Brifysgol.

Dyma a ddywedodd Syr Andrew, a gafodd ei urddo yn 2020 yn sgîl ei wasanaethau i fyd busnes, gwyddoniaeth a thechnoleg: "Ymweliadau fel y rhain yw rhan orau fy swydd. Peth hynod foddhaol a gwerth chweil yw gweld y cymunedau bywiog sy'n ymffurfio o amgylch ymchwil ac arloesi ym mhob rhan o'r DU, gan fod byd ymchwil yn llawn pobl angerddol a syniadau sy'n newid y byd. Hoffwn i ddiolch i bawb oedd yn rhan o'r ymweliad a’r bobl sydd y tu ôl i'r llenni sy'n gweithio gydag UKRI i drawsnewid yfory gyda'i gilydd."

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, ei bod hi'n fraint cael cyflwyno Syr Andrew i ymchwilwyr academaidd talentog sy’n gweithio ar draws sawl disgyblaeth yn ystod y daith i ddangos buddsoddiadau diweddar y Brifysgol iddo - gan gynnwys Abacws, sbarc|spark, y Ganolfan Ymchwil Drosi ac Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.  

"Geocemegydd organig hynod flaenllaw oedd Syr Andrew yn ystod ei gyrfa gynnar ac wedyn aeth yn ei flaen i fod yn arweinydd hynod o lwyddiannus ym myd diwydiant," meddai'r Athro Riordan.

"Oherwydd hynny, mae'n deall yn burion sut mae ymchwil academaidd blaenllaw a buddsoddiadau’r prifysgolion yn y cyfleusterau gorau yn y dosbarth yn rhoi cyfleoedd arloesi go iawn i ystod o sefydliadau, boed yn gwmnïau ym myd y cyfryngau, gweithgynhyrchwyr microsglodion neu elusennau a'r llywodraeth. Mae ein dadansoddiad diweddar o effaith economaidd Prifysgol Caerdydd yn tanlinellu pwysigrwydd ein pobl a'n partneriaethau."  

Dyma a ddywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter: "Pleser oedd cael rhannu cyfeiriadau ein hymchwil, yr arloesi sydd ar y gweill gennym a'n prosiectau ar y cyd yn ystod yr ymweliad deuddydd hwn. Rydyn ni’n falch bod UKRI yn deall pwysigrwydd yr agenda lleoedd ac effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi i Gymru a'r DU."

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Phrifysgol Caerdydd cysylltwch â business@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.