Ewch i’r prif gynnwys

Pob un o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd i ddysgu sgiliau Cymraeg

17 Tachwedd 2022

Medical students in lecture theatre with lecturer teaching in welsh

Bydd pob myfyriwr meddygol yn ei ail flwyddyn yn cael hyfforddiant gorfodol ar gyfathrebu yn y Gymraeg er mwyn dysgu’r sgiliau i allu trin cleifion Cymraeg eu hiaith pan fydd ar leoliad gwaith mewn ysbyty.

Dywedodd Sara Vaughan, Rheolwr Datblygu’r Gymraeg o Ysgol Meddygaeth y Brifysgol: “Dangoswyd bod trin cleifion yn eu hiaith gyntaf yn gwella eu canlyniadau ac yn eu helpu hefyd i ddeall eu triniaeth yn well. Rydym yn gwybod y gall cyfarch cleifion yn y Gymraeg fod o fudd nid yn unig i’r claf ond i’r myfyriwr ar leoliad gwaith, hefyd.

“Mae strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru’n mynnu bod cleifion yn cael cynnig triniaeth yn y Gymraeg, yn hytrach na gorfod gofyn amdani. Nod y fenter hon yw cyflawni’r weledigaeth honno a pharatoi ein myfyrwyr ar gyfer gweithio yn y lleoliadau dwyieithog y mae Cymru gyfan yn eu cynnig a’u mynnu.

“Bydd ein hyfforddiant ar gyfathrebu yn y Gymraeg yn datblygu hyfedredd y genhedlaeth nesaf o feddygon a fydd yn gwasanaethu pobl Cymru. Drwy wneud hyfforddiant o’r fath yn rhan o’n cwricwlwm, y gobaith yw y bydd gan bob myfyriwr meddygol sy’n graddio o Brifysgol Caerdydd y sgiliau sy’n eu galluogi i drin cleifion yn y ffordd orau mewn gwlad wirioneddol ddwyieithog.”

Ers 2015, mae myfyrwyr meddygol y Brifysgol wedi gallu astudio ar gyfer eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy wneud hynny, maent yn dysgu’r sgiliau i allu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn sefyllfa feddygol broffesiynol. Mae'r rhaglen newydd yn ei gwneud yn ofynnol datblygu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg yn rhan o gwricwlwm yr Ysgol. Bydd yn addysgu sgiliau i bob myfyriwr y gellir eu defnyddio yng nghwmni eu cleifion.

Yn rhan o'r rhaglen beilot, gall myfyrwyr ddewis bod yn rhan o’r ffrydiau rhugl, heb-fod-yn-rhugl a di-Gymraeg, sy’n golygu y bydd eu hyfforddiant wedi’i deilwra’n briodol. Yn rhan o’r hyfforddiant, mae actorion hyfforddedig yn helpu i greu senarios ffug, er mwyn profi sgiliau trin a sgiliau Cymraeg y myfyrwyr.

students and academics from the School of Medicine

Dywedodd Hannah Rossiter, myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Ar ôl symud i Gymru i fynd i’r brifysgol, sylweddolais pa mor gyffredin yw’r Gymraeg a pha mor bwysig yw rhoi’r opsiwn i gleifion Cymraeg eu hiaith dderbyn gofal yn eu mamiaith. Mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn gwella’r berthynas rhwng y claf a’r meddyg, gan gynnwys canlyniadau clinigol.”

Mae’r Brifysgol yn ceisio sicrhau bod y rhaglen beilot hon yn dod yn rhan sefydledig o hyfforddiant meddygol erbyn 2023.

Dywedodd Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol: “Rydym yn gwybod derbyn gofal gan rywun sy’n cydnabod ac – o bosibl – yn siarad eich mamiaith yn arwain at ganlyniadau a boddhad gwell. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod myfyrwyr meddygol sydd â sgiliau Cymraeg yn fwy tebygol o aros a gweithio yng Nghymru ar ôl graddio.

“Nod yr hyfforddiant hwn yw gwella profiad cleifion a’u teuluoedd o ofal iechyd, lleihau gorbryder a chroesawu ein holl fyfyrwyr, a gobeithio y bydd yn annog y myfyrwyr i aros yng Nghymru er mwyn gwasanaethu ein poblogaeth ddwyieithog.”

Rhannu’r stori hon