Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd newydd i Ysgol y Gymraeg

5 Rhagfyr 2022

Mae Ysgol y Gymraeg wedi croesawu'r darlithydd newydd, Llewelyn Hopwood, i’w chymuned academaidd.

Mae Llewelyn, sy’n meddu tair gradd o Brifysgol Rhydychen, yn dod â chyfoeth o brofiad academaidd a phroffesiynol gydag ef i’r adran.

Cawson ni’r cyfle i gael gair gyda Llewelyn i drafod rhywfaint o'i gefndir a’i ddiddordebau y tu fewn a’r tu allan i'w fyd gwaith.

[Fideo]

Pwy wyt ti, o le wyt ti’n dod, a beth yw dy rôl newydd o fewn Ysgol y Gymraeg?

Llewelyn ydw i a dw i’n dod o Langynnwr tu allan i dref Caerfyrddin. Rwy’n Ddarlithydd yma yn yr ysgol ac yn bennaf yn gyfrifol am fodiwlau iaith a sgiliau academaidd.

Esboniwch ofynion y rôl newydd.

Eleni rwy’n gyfrifol am ddysgu llond llaw o fodiwlau cyffredinol; y tymor hwn, rwy’n dysgu ar y modiwlau Sgiliau Academaidd Uwch a Sgiliau Iaith.

Beth yw dy gefndir gyrfaol academaidd a phroffesiynol hyd yma?

Mae gen i dair gradd o Brifysgol Rhydychen: y cyntaf yn radd BA mewn ieithoedd modern (Sbaeneg ac ieithoedd Celtaidd), yr ail yn MSt mewn astudiaethau canoloesol, a’r trydydd yn ddoethuriaeth (DPhil) Cymraeg a Saesneg canoloesol (graddio yn 2023). Rwyf wedi dysgu sawl modiwl Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg canoloesol yn y Brifysgol honno ac wedi bod yn ymchwilydd ar brosiect archeolegol ym Mhrifysgol Lerpwl a phrosiect ar lenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Valladolid, Sbaen. Tu hwnt i addysgu uwch, rwyf hefyd wedi gweithio fel golygydd cylchgronau, prawf ddarllenydd, cyfieithydd, a cherddor.

Beth yw dy ddiddordebau ymchwil?

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â hanes a llenyddiaeth Prydain ac Iwerddon cyn tua 1700, yn enwedig barddoniaeth, hanes y synhwyrau, a hanes llyfrau, llawysgrifau a cherddoriaeth. Rwyf hefyd yn hoff o lenyddiaeth Wyddeleg a Sbaeneg ac o amlieithrwydd, h.y. astudio sut mae ieithoedd gwahanol yn ymwneud â’i gilydd heddiw ac yn y gorffennol.

Beth yw dy obeithion ar gyfer dy amser yn y rôl?

Fel darlithydd, rwy’n gobeithio codi hyder, chwilfrydedd, a sgiliau academaidd myfyrwyr yr Ysgol. Fel disgybl, rwy’n gobeithio meithrin fy sgiliau addysgu ac ehangu fy nealltwriaeth o’r Gymraeg ac astudiaethau Cymreig

Pam ddewisaist ti ymuno â ni yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd?

Gan fod yr Ysgol yn rhagori ym meysydd addysg, ymchwil, ac iechyd a lles staff a myfyrwyr.

Beth yw dy ddiddordebau y tu allan i’r gwaith?

Rwy’n caru cerddoriaeth o bob math â thimau pêl-droed Caerfyrddin, Caerdydd a Chymru.

Rhannu’r stori hon