Ewch i’r prif gynnwys

ANORFFENEDIG

14 Tachwedd 2022

Penwythnos o ffilmiau sy’n amlygu’r sinema fyd-eang ‘a ddygwyd oddi wrth’ wneuthurwyr ffilmiau benywaidd

Ar goll, heb ei orffen, wedi'i ddifetha. Wedi’i ddwyn, ei wrthod a’i gefnu arno.

Mae gŵyl ffilmiau gyffrous newydd sydd wedi'i churadu yn mynd â ni y tu ôl i lenni byd gwneud ffilmiau heddiw, gan arddangos ffilmiau annibynnol gan fenywod mewn rhannau gwahanol o'r byd.

Nod Anorffenedig: Gwneuthurwyr Ffilm Benywaidd yn y Broses yw taflu goleuni ar gydraddoldeb a mynediad i artistiaid ac ymarferwyr benywaidd.

Mae Anorffenedig, a gyflwynir gan Image Works: Ymchwil ac Ymarfer ym myd Diwylliant Gweledol Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Chanolfan Gelfyddydau Chapter, yn dangos ffilmiau o'r 1960au hyd y presennol a wnaed yn Affganistan, Awstralia, Libanus, Singapôr, yr Unol Daleithiau a Chymru.

Bydd llawer o'r gwneuthurwyr ffilmiau yn dod i’r ffilmiau a byddan nhw’n trafod gyda’r gynulleidfa ar ôl dangos y ffilmiau, ynghyd â llu o siaradwyr arbenigol o bob cwr o'r byd. Mae cyfres o weithdai ymarferol hefyd i helpu darpar wneuthurwyr ffilmiau a sefydledig i ddatblygu eu sgiliau. Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd.

Mae'r Uwch-ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Alix Beeston, yn cyd-guradu'r ŵyl. Dyma Dr Beeston yn esbonio: 'Mae ffilm anorffenedig yn arwydd o bethau a aeth o'u lle. Y cyllid sy'n sychu, y cydweithwyr yr ymddengys nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’i gilydd, y sensoriaid sy'n atal y ffordd, yr amseru sydd ddim yn gweithio, neu’n symlach, y lwc sy'n rhedeg allan yn y pen draw.

"Ond yr hyn sy'n hynod o ddiddorol yw sut y gall ffilmiau anorffenedig fod yn fwy na damweiniau neu’n fethiannau hefyd. Mae edrych ar weithiau anghyflawn neu wedi’u sensro yn ein gwahodd i feddwl o ddifrif am y broses yn hytrach na’r cynnyrch, ac am bwy sy'n cael ei gefnogi i wneud ffilmiau—a phwy sydd ddim. Mae hefyd yn datgelu gallu menywod sydd eisiau gwneud ffilmiau i ymaddasu yn ogystal â’u gwytnwch, a hynny yn aml yn wyneb rhwystrau mawr iawn.

'Nid hynny yn unig, ond mae anorffenedigrwydd hefyd yn amlygu ei hun yn strategaeth fwriadol ac yn ffynhonnell creadigrwydd yng ngwaith y gwneuthurwyr ffilmiau rydyn ni'n eu harddangos. Drwy feithrin y rhai anorffenedig, mae'r gwneuthurwyr ffilmiau hyn yn cwestiynu'r hanesion sy’n hollgynhwysfawr ac yn "orffenedig" yn ôl pob sôn, neu’r straeon caeedig y byddwn ni’n eu hadrodd am y byd.

‘Felly ar draws y digwyddiadau, byddwn ni’n meddwl gyda'n gilydd am sut mae gweithiau anorffenedig yn datblygu ein synnwyr o hanes, cymdeithas, celf, a diwylliant. Mae pob un o'r pethau hyn eu hunain yn anorffenedig, gan ddatblygu o hyd mewn ffyrdd sy’n ddirgel inni o hyd.'

Noddir Anorffenedig gan Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dr Alix Beeston yw awdur In and Out of Sight: Modernist Writing and the Photographic Unseen (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2018). Cyd-guradur Anorffenedig, Dr Stefan Solomon, yw Uwch-ddarlithydd Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Macquarie ac awdur William Faulkner in Hollywood: Screenwriting for the Studios (Gwasg Prifysgol Georgia, 2017).

Bydd casgliad o draethodau Dr Beeston a Dr Solomon, sef Incomplete: The Feminist Possibilities of the Unfinished Film yn ymddangos yn fuan gan Wasg Prifysgol Califfornia yn 2023.

Rhannu’r stori hon