Ewch i’r prif gynnwys

Llyfr cyfiawnder “yn tynnu sylw at y camweithrediad yn ein system” – Gweinidog Llywodraeth Cymru

11 Tachwedd 2022

Cafodd llyfr newydd Robert Jones a Richard Wyn Jones, The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, ei ganmol gan Aelodau’r Senedd yn ystod Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol yr wythnos hon.

Tynnodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros y Cyfansoddiad, Mick Antoniw, sylw at y llyfr yn ystod trafodaethau ar ddatganoli plismona, gan nodi:

“(Mae’r llyfr) wir yn dechrau tynnu sylw at y camweithrediad yn ein system gyfiawnder: y ffaith nad oes gennym ni unrhyw aliniad priodol rhwng yr holl gyfrifoldebau datganoledig a Gweinyddiaeth Gyfiawnder canolog dros ben, lle mae Cymru ond yn chwarae rhan ymylol iawn.”

Dadleuodd Llyr Gruffydd, AS Plaid Cymru:

“Mae wir yn amlinellu sut mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn unigryw, ac, er bod gan ein cenedl ei Llywodraeth a’i Senedd ddatganoledig ei hun, wrth gwrs, nid oes systemau gyfiawnder fel yr Alban na Gogledd Iwerddon yng Nghymru. Yn hytrach, mae gwrit sefydliadau cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn parhau i redeg. Ac eto, mae cyfrifoldebau helaeth sefydliadau datganoledig Cymru yn sicrhau eu bod o reidrwydd yn chwarae rhan arwyddocaol mewn cyfiawnder troseddol, ac, o ganlyniad, mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn gweithredu ar draws “y rhwyg”, rhwng y pwerau a'r cyfrifoldebau datganoledig a’r rhai a gadwyd yn ôl."

Nododd Mick Antoniw AS hefyd fod "cynnwys y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd yn cynnwys gwybodaeth wirioneddol arwyddocaol ynddo”, gan dynnu sylw at yr angen i sicrhau bod data troseddeg wedi’i ddadgyfuno ar gael ar gyfer Cymru.

Rhannu’r stori hon