Ewch i’r prif gynnwys

What’s occurin’: Tafodieithoedd y Barri, Caerffili a Phontypridd yn destun astudiaeth academaidd

15 November 2022

Barry Island stock image
Barry Island

Bydd acenion a thafodieithoedd Saesneg Cymreig tair cymuned yn ne-ddwyrain Cymru’n sail i ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Yn yr astudiaeth gyntaf-o’i-math hon, bydd patrymau ieithyddol a welir yn y Barri, Pontypridd a Chaerffili – tair cymuned sydd heb gael eu hastudio eto – yn cael sylw. Dod i ddeall newid ieithyddol, gan gynnwys tafodieithoedd unigryw y rhanbarthau hyn, yn well yw’r bwriad.

Yn draddodiadol, mae ieithyddion wedi cydnabod nad yw tafodiaith Caerdydd yn rhannu llawer o'r nodweddion Saesneg Cymreig sydd i’w cael mewn ardaloedd cyfagos, ac ystyrir bod mudo o Loegr yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif wedi chware rhan hollbwysig yn hyn o beth.

Er bod ymchwil ddiweddar wedi dod i’r casgliad bod hyn yn wir ar y cyfan yn achos pobl hŷn o Gaerdydd, mae siaradwyr iau bellach yn mabwysiadu nodweddion sydd i’w cael yn llawer agosach at adref yn ne-ddwyrain Cymru.

Am fod trosglwyddo o'r tu allan yn chwarae rhan mor allweddol, mae Sociolinguistic Variation in South East Wales: Change and Contact – dan arweiniad yr Athro Ieithyddiaeth Gymdeithasol, Mercedes Durham – yn trin a thrafod pa leoliadau sy'n gweld y newid hwn a sut.

Bydd 36 o bobl o bob cymuned – wedi'u rhannu yn ôl oedran a rhyw – yn cael eu cyfweld. Bydd academyddion wedyn yn gwneud dadansoddiadau meintiol i astudio’r nodweddion a ddefnyddir ganddynt.

Dywedodd yr Athro Durham o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol, sy'n arbenigo mewn amrywiaeth a newid ieithyddol: "Hyd heddiw, ychydig iawn o ymchwil academaidd sydd wedi’i gwneud i dafodieithoedd lleol yng Nghymru, yn enwedig ymchwil sy’n cymharu gwahanol gymunedau. Rydym yn canolbwyntio ar gymunedau yn ne-ddwyrain Cymru, a hyd yma, nid ydym yn gwybod pa nodweddion ieithyddol sy’n cael eu rhannu a pha rai sy'n berthnasol i gymunedau unigol yn unig. Nid ydym ychwaith yn gwybod pwy yn y cymunedau sy’n defnyddio’r nodweddion hyn – a ydynt yn diflannu ymhlith siaradwyr iau, neu a yw’r dafodiaith yn cael ei chynnal?

“Bydd yr ymchwil hon yn ehangu ein dealltwriaeth o Saesneg Cymreig, ond hefyd yn helpu i egluro sut mae'r nodweddion newydd i Gaerdydd yn dod i mewn i'r ddinas, gan y bydd y canfyddiadau yn y tri lleoliad yn cael eu cymharu â chanfyddiadau sy’n bodoli eisoes.”

Ac yntau’n creu'r casgliad mwyaf o ddeunydd Saesneg Cymreig hyd yma, bydd y prosiect tair blynedd yn nodi:

  1. Nodweddion sy’n cael eu rhannu a rhai sy’n unigryw ar draws rhanbarth de-ddwyrain Cymru, drwy nodi’r nodweddion ieithyddol sy’n cael eu defnyddio yn yr un ffordd a’r rhai sy’n cael eu defnyddio mewn ffordd wahanol yn y Barri, Caerffili a Phontypridd. Yn ogystal â nodweddion ynganu a geirfa, bydd strwythurau gramadegol sy'n aml yn gysylltiedig â Saesneg Cymreig, fel I like it I do (afleoli chwith) ac Impressive that is (blaenu) yn cael eu cynnwys. Bydd y prosiect hefyd yn dadansoddi sut mae ffactorau cymdeithasol, fel oedran a rhyw, yn effeithio ar gyfradd a phatrwm nodweddion.
  2. Sut mae Saesneg Caerdydd yn cymharu â'r amrywiaethau a siaredir mewn ardaloedd cyfagos – yn benodol, pa nodweddion sy'n ymledu i'r brifddinas o'r Cymoedd a Bro Morgannwg, ac i'r gwrthwyneb, sut mae'r ddinas yn dylanwadu ar y tafodieithoedd hyn?

Ariennir Sociolinguistic Variation in South East Wales: Change and Contactgan Ymddiriedaeth Leverhulme. Gellir cyfeirio cwestiynau i'r prosiect drwy ebost.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.