Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth am ymrwymiad i iechyd, lles a diogelwch

8 Tachwedd 2022

VC with Chris Moores, Operations Director, NQA
The Vice Chancellor with Chris Moores, Operations Director, NQA

Mae ISO 45003 yn safon canllawiau rhyngwladol newydd a gynlluniwyd ar gyfer rheoli peryglon seicogymdeithasol yn y gweithle. Ei brif nod yw lleihau nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl ymhlith staff drwy hyrwyddo lles sefydliadol.

Mae cydymffurfio â’r safon yn gymeradwyaeth allanol gref o ymrwymiad Prifysgol Caerdydd a’i hymagwedd ragweithiol at les staff.

Dywedodd Chris Moores, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r corff ardystio, Gwobr Ansawdd Genedlaethol (NQA): "Doedd dim gofyniad i Brifysgol Caerdydd gael yr ardystiad hwn felly mae mynd amdani yn dangos pa mor flaengar yw'r brifysgol a pha mor ymrwymedig ydych chi i les staff. Mae'n braf iawn dod yma heddiw a gweld y buddsoddiad rydych chi wedi'i wneud yn y sefydliad, y bobl, y system reoli, a gobeithio y bydd hynny'n dwyn ffrwyth i chi wrth symud ymlaen.

"Diolch am fod y golau disglair dros IS0 45003 yn y sector addysg uwch. Chi yw’r cyntaf i wneud hyn yn eich sector, sy’n tystiolaethu’n fawr drosoch chi ac i'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni."

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Yr hyn rwy'n ei hoffi am ddull ISO 45003 yw ei fod yn gofyn i'n rhai sy'n gwneud penderfyniadau feddwl am iechyd seicolegol a lles meddyliol ein staff, yn ogystal â'u diogelwch corfforol. Mae wir wedi newid y ffordd rydyn ni'n meddwl am arwain a rheoli'r brifysgol.

"Hoffwn i ddiolch i bawb yn y brifysgol sydd wedi gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl. Dechrau yw hyn ac nid diwedd. Rydym wedi ymrwymo i amgylchedd dysgu a gweithio diogel sy’n hybu iechyd meddwl, a lle gall pob aelod o gymuned y Brifysgol ffynnu. Mae hon yn ffordd o welliant parhaus ac mae'r ardystiad hwn yn dangos ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir."

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i alluogi staff i ffynnu drwy fywydau gwaith iach. Mae cyflawniadau diweddar eraill yn y maes hwn yn cynnwys:

  • O ran Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig 3 (Iechyd a Lles Da), mae Prifysgol Caerdydd bellach yn safle rhif 4 yn y DU ac yn safle 41 yn y byd, yn erbyn dros 1,000 o sefydliadau addysg uwch.
  • Cawsom ein cynnwys mewn adroddiad Cymru Iach ar Waith ynghylch arferion lles gorau yn y gweithle yn ystod pandemig COVID-19.
  • Wnaethon ni hefyd ennill Gwobr Cyflawniad Iechyd a Lles gan Gymdeithas Diogelwch ac Iechyd y Prifysgolion (USHA). Mae’r gydnabyddiaeth hon gan gyfoedion yn cydnabod gwaith da’r brifysgol yn y maes hwn ac yn cryfhau ei safle fel un sy’n arwain y sector.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.