Ewch i’r prif gynnwys

Tîm Astudiaeth Etholiad Cymru i daflu goleuni ar 100 mlynedd o oruchafiaeth Llafur Cymru

31 Hydref 2022

RWJ

Ar y 15fed o Dachwedd byddwn yn nodi canmlwyddiant etholiad cyffredinol 1922, yr etholiad cyffredinol cyntaf lle’r enillodd Llafur y nifer mwyaf o seddau a phleidleisiau yng Nghymru, gan gychwyn cyfres o fuddugoliaethau sydd wedi parhau’n ddi-dor hyd at y dwthwn hwn – record o lwyddiant etholiadol na cheir mo’i thebyg yn y byd democrataidd.

Fel rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau i gofnodi’r canmlwyddiant mae tîm Arolwg Etholiad Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi trefnu digwyddiad arbennig lle bydd data o arolygon yn ymestyn dros gyfnod o dros 40 mlynedd yn cael eu defnyddio i egluro pam fod Llafur yn parhau i ennill yng Nghymru.

Cynhelir y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead gyda Elliw Gwawr yn cadeirio.

Ceir manylion cofrestru trwy ddilyn y ddolen.

Rhannu’r stori hon