Ewch i’r prif gynnwys

Pobl sy’n torri rheolau a chreu newid: Cyn-fyfyrwyr tua30 sy’n dylanwadu

31 Hydref 2022

Image of Jack Collard, 30ish award winner
Jack Collard

Bu Gwobrau (tua)30 cyntaf y Brifysgol yn dathlu llwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned, a'r cyfan cyn iddynt gyrraedd 30 oed. Wel, (tua)30 oed.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y seremoni wobrwyo’n agored i gynfyfyrwyr o dan 30 neu dros 30 sy'n teimlo eu bod (tua)30 oed. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno. Wel, (tua)300.

Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.

Gwahoddwyd enillwyr (tua)30 i'r digwyddiad gwobrwyo cyntaf yn adeilad arloesol y Brifysgol, sbarc, a gynhaliwyd gan Gadeirydd y Cyngor a'r cyn-fyfyriwr Pat Younge (BSc 1987) ac arweiniodd y gyn-fyfyrwraig Babita Sharma (BA 1998) y digwyddiad. Daeth tua 70 o gynfyfyrwyr, gwesteion a staff i'r noson arbennig hon, gyda chynfyfyrwyr yn teithio o UDA, Canada ac Ewrop i dderbyn eu gwobrau.

Roedd cyn-fyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr ddisglair o enillwyr, gan gynnwys y cyn-fyfyriwr Jack Collard (BSc 2021) o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio.

Tra'n dal i fod yn fyfyriwr, sefydlodd Jack British Roundnet, corff llywodraethu cenedlaethol cwbl wirfoddol, di-elw ar gyfer camp rhwyd-crwn yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Eu nod yw annog mwy o bobl i fod yn weithgar, tyfu'r gymuned rhwyd crwn a chael cydnabyddiaeth gyda Sport UK yn y pen draw. Mae Jack yn arwain tîm o 12 (a gwirfoddolwyr ychwanegol) wrth gynnal cystadlaethau a digwyddiadau cenedlaethol i'r cyhoedd, myfyrwyr prifysgol a phlant ysgol o bob lefel.

O dan arweiniad Jack, maen nhw wedi cynnal proses ailfrandio hynod lwyddiannus, gan arwain at ddenu £6,000+ o fuddsoddiad ar gyfer eu rownd gyntaf erioed o nawdd. Mae hyn wedi helpu eu rhaglen i ddatblygu chwaraewyr o’r radd flaenaf, gan sicrhau bod Prydain yn cael ei chynrychioli yng nghystadleuaeth gyntaf erioed Cwpan Rhwyd Crwn y Byd.

Darllenwch y restr lawn o enillwyr (tua)30 2022.

Rhannu’r stori hon