Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau cyntaf i gynfyfyrwyr yn dangos doniau graddedigion y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

25 Hydref 2022

Syeda Batool Zehra (LLB, 2020), Parikrama Khot (LLM, 2019), Gladys Emmanuel (LLM, 2020) a Kate O'Connor (BA, 2012)
Syeda Batool Zehra (LLB, 2020), Parikrama Khot (LLM, 2019), Gladys Emmanuel (LLM, 2020) a Kate O'Connor (BA, 2012).

Mae ymgyrchydd cymunedol, actifydd cymdeithasol-gyfreithiol, eiriolwr tegwch o ran rhyw a rhywedd, a newidiwr gyrfaoedd creadigol oll wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau i gymuned yng Ngwobrau (tua) 30 cyntaf Prifysgol Caerdydd.

Fe wnaeth y cynfyfyrwyr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Syeda Batool Zehra (LLB, 2020), Parikrama Khot (LLM, 2019), Gladys Emmanuel (LLM, 2020) a Kate O'Connor (BA, 2012) i gyd dderbyn gwobrau (tua) 30, a gyflwynwyd mewn seremoni ar 20 Hydref 2022 yn adeilad arloesol sbarc|spark y brifysgol.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', fe wnaeth Gwobrau (tua) 30 ddathlu cyflawniadau cynfyfyrwyr sydd o dan 30 oed, y rhai sydd dros 30, neu’r rhai sy'n teimlo eu bod (tua) 30! Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel i’r Gwobrau, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno.

Gan amlygu amrywiaeth y gyrfaoedd y mae myfyrwyr y gyfraith a gwleidyddiaeth yn aml yn eu mynd yn eu blaenau i’w dilyn, mae'r enillwyr o'n hysgol yn wirioneddol ysbrydoledig:

Ymgyrchydd cymunedol, Syeda Batool Zehra – Y Gyfraith, LLB
Mae Syeda wedi goresgyn rhwystrau sylweddol yn ei hymdrechion i astudio ar lefel addysg uwch, i greu gyrfa fel Bargyfreithiwr. Mae'n ymgyrchydd diflino dros geiswyr lloches ac fe neilltuodd lawer o'i hamser pan oedd yn fyfyriwr i gefnogi Student Action for Refugees (STAR), yn ogystal â Chyngor Ffoaduriaid Cymru Faire&Square. Bu hefyd yn aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth Bethan Roper dros Ffoaduriaid. Trwy ei hymrwymiad a'i gwaith caled, llwyddodd i ddylanwadu ar wleidyddion a sefydliadau i ddarparu llythyrau cefnogi, a pherswadiodd brifysgolion i roi ysgoloriaethau i geiswyr lloches. Ni chafodd Syeda ei digalonni gan yr anawsterau a wynebodd ac mae'n benderfynol o ysbrydoli pobl eraill fel hi i ddal ati wrth geisio cyfleoedd i gyflawni eu breuddwydion eu hunain.

Ymgyrchydd cymdeithasol-gyfreithiol, Parikrama Khot - Cyfraith Hawliau Dynol, LLM
Parikrama oedd y cyntaf yn ei theulu i fynd i’r brifysgol ac mae hi bellach yn gyfreithiwr ac yn ymgyrchydd cymdeithasol-gyfreithiol. Mae hi wedi ymrwymo i gynnal hawliau dynol - yn enwedig rhai menywod, plant, pensiynwyr, sectorau LHDTCRhA+ ac ymylol, yn Pune, India. Yn 2020 sefydlodd 'Sapient Law Chambers' – cwmni cyfreithiol sy’n cyflogi merched yn unig. Mae hi hefyd yn arwain cell menywod y Maharashtra Andhashraddha Nirmoolan Samiti India Shivaji Nagar yng nghangen Pune Maharashtra, gan gefnogi menywod a gafodd eu hecsbloetio'n ariannol neu a fu’n dioddef camdriniaeth. Mae wedi arwain ei thîm i gyflwyno gweithdai sensiteiddio rhywedd ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, a sesiynau ymwybyddiaeth gyfreithiol i bawb. Mae hi'n mentora merched mewn ardaloedd gwledig ac yn eu hannog i ddilyn addysg uwch, ac i astudio'r gyfraith yn benodol - ac yn aml yn siarad â’u teuluoedd i ddeall y cyfleoedd a'r manteision y gall addysg eu darparu.

Eiriolwr tegwch o ran rhyw a rhywedd, Gladys Emmanuel - Cyfraith Hawliau Dynol, LLM
Cyfreithiwr Hawliau Dynol ac Eiriolwr Rhywedd yn Nigeria yw Gladys; aelod o Gymdeithas Bar Nigeria (NBA) a Ffederasiwn Rhyngwladol Cyfreithwyr y Merched (FIDA Abuja). Ar hyn o bryd mae'n gweithio yng Nghanolfan Grymuso Tabitha, lle mae'n arwain ymdrechion eirioli i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd (gbv) ac yn rhoi cefnogaeth i oroeswyr. Yn ei rôl mae'n datblygu rhaglenni i fynd i'r afael â thrais o’r fath - yn fwyaf penodol "cynllun cyfreithwyr pro bono, "Ymgyrch gwrth-drais ar sail rhywedd a menter Empowering Her" (lledaenu negeseuon gwrth-drais ar sail rhywedd, adsefydlu goroeswyr, grymuso gweddwon, hyfforddi hyrwyddwyr gwrth-drais ar sail rhywedd, sefydlu unedau cymorth gwrth-drais ar sail rhywedd, a chlybiau ysgol). Mae ei hangerdd dros hawliau dynol, hawliau menywod, materion rhywedd a chyfiawnder wedi rhoi cyfleoedd iddi ddefnyddio ei llais a'i harbenigedd ar lwyfannau sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd, gan gynnwys erthygl arbennig fel "Woman of the Sun" ym mhapur newydd y Sun (papur newydd dyddiol cenedlaethol) a gweithio yn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Northcap yn India.

Newidiwr gyrfaoedd creadigol, Kate O'Connor - Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth, BA
Roedd Kate wrth ei bodd pan gafodd le ar gynllun mawreddog Accenture i raddedigion yn 2012. Fodd bynnag, ar ôl ychydig flynyddoedd, sylweddolodd nad ymgynghori ynghylch rheolaeth oedd hi am wneud am byth. A hithau’n hoff iawn o ysgrifennu yn ei hamser hamdden, ac â diddordeb brwd mewn comedi, penderfynodd ei bod eisiau dilyn llwybr creadigol. Felly, fe aeth amdani ac astudio MA mewn Hysbysebu Creadigol ym Mhrifysgol Falmouth ac aeth yn ôl i fod yn intern yn 26 oed. Ers hynny mae hi wedi dilyn gyrfa lwyddiannus fel Uwch-swyddog Hysbysebu Creadigol. Ar hyn o bryd mae hi'n Uwch-swyddog Creadigol yn Momentum Worldwide. Mae ei llwyddiannau diweddar yn cynnwys ennill Gwobrau Aur yng Ngwobrau The Drum Experience a Gwobrau Campaign Experience am broses cymryd drosodd Merck Twitch, 'Game On! For MS!’

Llongyfarchiadau i bawb a gafodd gydnabyddiaeth! Mae rhestr lawn o'r enillwyr a gwybodaeth am y Gwobrau (tua) 30 i'w gweld ar dudalennau gwe Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon