Ewch i’r prif gynnwys

Er cyfoethocach, er tlotach - darlithydd o Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd yn trin a thrafod cydraddoldeb o fewn priodas

25 Hydref 2022

Broetsh Cymdeithas y Merched Priod
Broetsh Cymdeithas y Merched Priod

Wrth i nifer y menywod sy'n gadael y gwaith i ofalu am eu teuluoedd gynyddu, mae darlithydd o Gaerdydd yn trin a thrafod grŵp o arloeswyr ffeministaidd anghofiedig o ddiwedd y 1930au i weld a allwn edrych tuag at y gyfraith i helpu i sicrhau partneriaeth gyfartal o fewn priodas.

Mae'r Darllenydd yn y Gyfraith, Dr Sharon Thompson wedi cyhoeddi llyfr ac wedi lansio podlediad yn ddiweddar o'r enw Quiet Revolutionaries sy'n ymchwilio i waith Cymdeithas y Merched Priod (The Married Women's Association), grŵp pwyso a sefydlwyd gan swffragetiaid ar drothwy'r Ail Ryfel Byd i fynd i'r afael â hawliau cyfreithiol gwragedd tŷ.

Ceisiodd Cymdeithas y Merched Priod newid y gyfraith i fynd i'r afael â'r tlodi yr oedd menywod yn ei wynebu mewn perthnasoedd. Os oeddech chi'n fenyw briod yn y 1940au, doedd gennych chi fawr o amddiffyniad o dan y gyfraith. Er mai yn y cartref roeddech chi’n gweithio, allech chi ddim cael morgais yn eich enw eich hun. Pe na baech yn cael eich gorfodi allan o’ch gwaith gan yr arfer o rwystro merched rhag gweithio wedi iddynt briodi (marriage bar), byddai eich cyflog yn is nag un eich gŵr, a fyddai'n eironig ddigon yn mynd â phecyn cyflog adref o'r enw 'cyflog teuluol' nad oedd gennych unrhyw hawl arno.

Gwrandewch ar Dr Sharon Thompson ar raglen Women's Hour yn trafod Cymdeithas y Menywod Priod

O weld yr anghydbwysedd hwn, brwydrodd Cymdeithas y Merched Priod dros gael partneriaeth ariannol gyfartal o fewn priodas, gan ddadlau na fyddai'r gŵr yn gallu mynd allan i weithio heb lafur di-dâl y wraig yn cynnal y cartref ac yn gofalu am blant. Felly, dylai pob cyflog sy'n cyrraedd y tŷ gael ei rannu'n gyfartal gan y naill bartner a’r llall yn ystod y briodas.

Roedd y syniad hwn y dylid digolledu’r partner am eu gwaith yn gofalu am y cartref yn un radical ac er na fu’n bosib i’r gymdeithas basio'r holl ddeddfau yr oeddent yn brwydro i’w rhoi ar waith, roedd yn allweddol o ran sicrhau bod Deddf Eiddo Menywod Priod 1964 yn cael ei deddfu, ac o ganlyniad i hynny roedd gan wragedd yr hawl i hanner y cynilion cadw tŷ. Ar y cyfan, roedd eu dylanwad yn un cynnil, ac eto'n arwyddocaol, oherwydd roedd gwaith y gymdeithas honno’n newid y ddeialog ynglŷn â gwerth gwaith menywod yn y cartref.

Wrth gysylltu gwaith y gymdeithas honno â heddiw, dywedodd Dr Thompson, "Mae statws menywod wedi newid yn sylweddol iawn ers dyddiau cynnar y gymdeithas. Serch hynny, mae problemau ehangach o ran anghydraddoldebau rhwng y rhywiau yn parhau o hyd.

Mae ymchwil yn dangos bod mamau'n dal yn fwy tebygol o wneud aberthau o ran eu gyrfa na thadau. Mae menywod yn cymryd mwy o amser na dynion i gael eu cefn atynt yn ariannol pan fydd eu priodas wedi chwalu. Ac mae'r bwlch rhwng y rhywiau o ran cyfoeth pensiwn hefyd yn gallu creu anghydraddoldebau ariannol sylweddol rhwng partneriaid priod."

I ddysgu rhagor am hanes cudd Cymdeithas y Menywod Priod, mae llyfr Dr Thompson ar gael trwy Bloomsbury. Gallwch hefyd wrando ar y podlediad Quiet Revolutionaries ar y rhan fwyaf o’r prif blatfformau ar gyfer podlediadau, neu fe allwch ymweld â gwefan y Married Women's Association.

Rhannu’r stori hon