Ewch i’r prif gynnwys

Pobl sy’n torri rheolau a chreu newid: Cyn-fyfyrwyr tua30 sy’n dylanwadu

24 Hydref 2022

Jessica Dunrod

Dathlodd Seremoni Wobrwyo (tua)30 gyntaf y Brifysgol lwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned, a'r cyfan cyn iddynt gyrraedd 30 oed. Wel, (tua)30 oed.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y seremoni wobrwyo’n agored i gynfyfyrwyr o dan 30 neu dros 30 sy'n teimlo eu bod (tua)30 oed. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno. Wel, (tua)300.

Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.

Gwahoddwyd enillwyr (tua)30 i'r digwyddiad gwobrwyo cyntaf yn adeilad arloesol y Brifysgol, sbarc, a gynhaliwyd gan Gadeirydd y Cyngor a'r cyn-fyfyriwr Pat Younge (BSc 1987) ac arweiniodd y gyn-fyfyrwraig Babita Sharma (BA 1998) y digwyddiad. Daeth tua 70 o gynfyfyrwyr, gwesteion a staff i'r noson arbennig hon, gyda chynfyfyrwyr yn teithio o UDA, Canada ac Ewrop i dderbyn eu gwobrau.

Mae cyn-fyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr ddisglair o enillwyr, gan gynnwys Jessica Dunrod (BA 2020, MA 2022) o'r Ysgol Iaithoedd Modern.

Mae'r cyfieithydd arobryn ac awdur plant, Jessica Dunrod, yn hyrwyddwr arferion cyfieithu moesegol a chynrychiolaeth gadarnhaol mewn llenyddiaeth plant.

Mae ei llyfrau'n cynnwys OutstandingYour Hair is Your Crown a ysgrifennodd mewn ymateb i ‘The Black Doll Test’ (Prifysgol Brown) a brofodd fod ymddygiadau fel rhagfarn anymwybodol yn cael eu caffael erbyn bod plant yn yr ysgol gynradd.

Ehangodd Jessica ar yr ymchwil hon drwy fathu theori "The Elsa Affect" sy'n damcaniaethu sut mae diffyg cynrychiolaeth ym myd adloniant, marchnata a llenyddiaeth sydd wedi'i anelu at blant yn effeithio ar ddatblygiad cynnar plant.

Mae hi wedi cyfrannu at gynllunio’r cwricwlwm Cymreig newydd,mae'n ieithydd sy'n rhugl yn y Sbaeneg a Groeg Fodern, yn gyfieithydd, ac yn strategydd rhyngwladol. Yn 2021 cafodd ei henwi ar restr 15 o Eiconau Du Cymreig Wales Online.

Darllenwch y restr lawn o enillwyr (tua)30 2022.

Rhannu’r stori hon