Ewch i’r prif gynnwys

Pobl sy’n torri rheolau a chreu newid Cyn-fyfyrwyr tua30 sy’n dylanwadu

20 Hydref 2022

2022 30Ish Alumni Award winners

Dathlodd Seremoni Wobrwyo (tua)30 gyntaf y Brifysgol lwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned, a'r cyfan cyn iddynt gyrraedd 30 oed. Wel, (tua)30 oed.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y seremoni wobrwyo’n agored i gynfyfyrwyr o dan 30 neu dros 30 sy'n teimlo eu bod (tua)30 oed. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno. Wel, (tua)300.

Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.

Gwahoddwyd enillwyr (tua)30 i'r digwyddiad gwobrwyo cyntaf yn adeilad arloesol y Brifysgol, sbarc, a gynhaliwyd gan Gadeirydd y Cyngor a'r cyn-fyfyriwr Pat Younge (BSc 1987) ac arweiniodd y gyn-fyfyrwraig Babita Sharma (BA 1998) y digwyddiad. Daeth tua 70 o gynfyfyrwyr, gwesteion a staff i'r noson arbennig hon, gyda chynfyfyrwyr yn teithio o UDA, Canada ac Ewrop i dderbyn eu gwobrau.

Roedd cynfyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr ddisglair o enillwyr, gan gynnwys Jamilla Hekmoun (MA 2018) a Myles Hopper (BA 2010) o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Derbyniodd wyth o gyn-fyfyrwyr wobrau cydnabyddiaeth arbennig pellach mewn categorïau yn amrywio o ymgyrchydd Cymunedol, ymgyrchydd Ecwiti a Chymru i'r byd i Entrepreneuriaeth a Newyddiaduraeth a'r cyfryngau.

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Gweithredwr Cymunedol

Jamilla Hekmoun (MA, 2018)

Jamilla yw cadeirydd y Cynghrair Iechyd Meddwl Mwslimaidd a bu'n gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig i ddarparu adnoddau iechyd meddwl i'r gymuned Fwslimaidd. Mae hi'n aelod o Fwrdd Cyngor Mwslimaidd Cymru, lle helpodd i drefnu Eid yn y Castell - un o'r digwyddiadau peilot cyntaf ar ôl COVID.

Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd y Llinell Gymorth i Ieuenctid Mwslimaidd. Mae'r angerdd yma’n amlwg hefyd yn ei chymuned leol lle mae'n arwain gwaith Ymgysylltu â Chymunedau ar gyfer SEF-Cymru.

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Entrepreneuriaeth

Myles Hopper (BA, 2010)

Sefydlodd Myles Mindful Chef yn 2015 gyda dau ffrind ysgol - sydd bellach yn cael ei gydnabod fel un o hoff focsys ryseitiau'r DU.

Yn 2018 fe wnaethant ardystio fel B Corp gan gredu y gallai busnesau wir gydbwyso pwrpas ac elw ar yr un pryd. Hyd at y dydd hwn maen nhw wedi rhoi dros 14 miliwn o brydau ysgol i blant sy'n byw mewn tlodi. Maent yn fusnes carbon niwtral sy'n gweithio tuag at Sero Net 2030.

Enillydd Dewis y Bobl 2022 oedd Jessica Mullins (BSc 2011), a gyhoeddwyd yn dilyn pleidlais fyw yn y seremoni ar 20 Hydref.

Darllenwch y restr lawn o enillwyr (tua)30 2022.

Rhannu’r stori hon