Ewch i’r prif gynnwys

Lansio rhaglen gydweithredol gwerth £50m i ddatblygu canolbwynt byd-eang ar gyfer arloesedd ym meysydd teledu, ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru

19 Hydref 2022

Stock image of person working at multiple computer screens

Nod rhaglen gydweithredol newydd gwerth £50 miliwn yw datblygu canolbwynt blaengar ar gyfer arloesedd ar draws y diwydiant teledu, ffilm a'r cyfryngau ehangach yng Nghymru.

Mae Media Cymru yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, gyda chyllid a ddarperir drwy brif gronfa Strength in Places Ymchwil ac Arloesedd y DU, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, cymorth ychwanegol gan Gyngor Caerdydd, partneriaid yn y diwydiant a phrifysgolion, yn ogystal â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y rhaglen yn helpu i ddatblygu busnesau ac unigolion yn y sector gyda chyfres o gylchoedd cyllido, hyfforddiant a chyfleoedd ymchwil. Ei nod fydd cryfhau cyfraniad economaidd gweithgareddau'r cyfryngau i greu cannoedd o swyddi a datblygu busnesau newydd yn sector y cyfryngau.

Mae’r ardal eisoes yn un o’r clystyrau cyfryngau sy’n perfformio orau yn y DU, y tu ôl i Lundain a Manceinion, ac mae’n creu un o bob wyth o’r holl swyddi newydd ym myd ffilm a theledu ym Mhrydain. Mae 1,318 o gwmnïau yn weithredol yn sector y cyfryngau clyweledol yn y rhanbarth ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynhyrchu trosiant blynyddol o £545 miliwn ac yn cyflogi dros 10,000 o bobl.

Meddai’r Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Media Cymru yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: Mae Caerdydd a’r brifddinas-ranbarth o’i chwmpas eisoes yn chwarae rhan fawr yn niwydiant y cyfryngau.

Mae cyllid Media Cymru yn ein galluogi ni i fod yn fwy uchelgeisiol – i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau – gyda ffocws ar dwf economaidd gwyrdd a theg yn fyd-eang.

Yr Athro Justin Lewis Professor of Communication

Un o’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Media Cymru yw ei Phiblinell Arloesi, sy’n cynnig cyllid a chyfleoedd hyfforddi i fusnesau a phobl greadigol. Y nod yw cynyddu eu gallu i gynnal ymchwil, datblygu ac arloesi, a dod â rhagor o syniadau, amrywiaeth a thwf i'r diwydiant.

Gall gweithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig wneud cais am hyd at £10,000 i ddatblygu syniadau ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau newydd; hyd at £50,000 i fusnesau ddatblygu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy'n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth diriaethol; a hyd at £200,000 ar gyfer prosiectau sy’n cynnig uchelgais ac ar raddfa sylweddol ac sydd â’r potensial i drawsnewid y sector a chael effaith ryngwladol.

Bydd cyfle arall, Cronfa Arloesi Cynnwys y BBC, yn galluogi rhwng tri a phum cwmni o Gymru gael hyd at £50,000 yr un i ddatblygu syniad uchelgeisiol newydd ar gyfer cynnwys ffeithiol neu chwaraeon i'w ddarlledu ar BBC One Wales ac iPlayer.

Ar ben hynny, mae Media Cymru yn cynnal Arolwg Gweithlu Sgrîn Cymru. Hwn yw’r arolwg cenedlaethol cyntaf i asesu anghenion sgiliau a hyfforddiant, agweddau a phrofiadau pobl sy'n gweithio ym maes ffilm a theledu, gemau, animeiddio, VFX, ac ôl-gynhyrchu, a’i nod yw adeiladu sylfaen eang a chynhwysol o dalent ar gyfer y dyfodol.

Bydd ei fenter Gofodau Arloesi yn ceisio cysylltu’r gymuned amrywiol o fusnesau a gweithwyr llawrydd yn y rhanbarth gan ddefnyddio gweithdai wyneb yn wyneb a digidol i gynnig cyfleoedd i fanteisio ar dechnoleg newydd, cefnogaeth, a rhannu’r wybodaeth a’r syniadau diweddaraf.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Robert Buckland: “Mae gan Gymru ddiwydiant cyfryngau sy’n ffynnu a allai dyfu i arwain y ffordd, nid yn unig ym Mhrydain, ond ledled y byd.

“Bydd Media Cymru yn helpu i sicrhau bod gan arloeswyr y cyfryngau yng Nghymru yr adnoddau i ddatblygu atebion o’r radd flaenaf i faterion ein hoes, wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â phrosiectau uchelgeisiol sy’n eu rhoi ar flaen y gad.”

Meddai Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gefnogi’r cydweithio hwn i helpu i adeiladu ar lwyddiant cynhyrchwyr ein cyfryngau ar hyn o bryd.

“Bydd rhoi cyfle i’n doniau mwyaf disglair ddatblygu ac arddangos eu gallu i arloesi nid yn unig yn gwella enw da’r diwydiant ar draws y byd, bydd ein heconomi a’n cymdeithas ar eu hennill hefyd, a bydd hyn o fudd i’r rhanbarth cyfan yn y pen draw.”

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas: “Mae’n gyfnod euraidd ar gyfer gwneud ffilmiau a chynhyrchu cyfryngau yng Nghaerdydd, ac mae’n sicrhau twf sylweddol yn y Diwydiannau Creadigol. Ein huchelgais yw i Gaerdydd, y Brifddinas-Ranbarth, a Chymru fod yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu yn y cyfryngau, gan arwain un o’r sectorau mwyaf llwyddiannus yn y DU.

“Mae gan bartneriaeth Media Cymru rôl ganolog i gyflawni hyn, a bydd yn helpu i ddenu mewnfuddsoddiad, tyfu ein busnesau creadigol cynhenid mewn ffordd gynaliadwy a chynhwysol, creu swyddi, a meithrin y doniau amrywiol fydd yn galluogi Caerdydd a’r rhanbarth ehangach i ennill eu plwyf fel un o’r clystyrau cyfryngau mwyaf blaengar a chynaliadwy yn y byd.”

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Rydyn ni’n hynod uchelgeisiol ynglŷn ag adeiladu ar ein sector cyfryngau yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweld y gwahaniaeth sydd wedi’i wneud ym Manceinion, ac mae gan ranbarth Caerdydd yr holl ddoniau a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ganolfan o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau cyfryngau.

“Bydd gan Media Cymru rôl arwyddocaol hefyd wrth lunio adferiad economaidd ein rhanbarth yn dilyn pandemig Covid, ac yn helpu pawb, o Ferthyr i Fynwy, Blaenau Gwent i Ben-y-bont ar Ogwr, i rannu yn ein ffyniant yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.