Ewch i’r prif gynnwys

Y tywydd yn effeithio ar benderfyniadau prynu, yn ôl astudiaeth

1 Tachwedd 2022

Mae ymchwil yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yn ystyried a allai newidiadau byrdymor yn yr amgylchedd ffisegol, fel newidiadau mewn tymheredd, ein helpu i fynd i’r afael â’r bwlch effeithlonrwydd ynni.

Y bwlch effeithlonrwydd ynni yw’r enw a roddir yn aml i ddisgrifio methiant pobl i wneud buddsoddiadau cost-effeithiol, fel petai, er mwyn arbed ynni.

Byddai mynd i’r afael â’r blwch hwn yn arbed arian i bobl, ond mae iddo oblygiadau ehangach. Mae cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio ynni’n creu allyriadau carbon – un o’r pethau sy’n cyfrannu fwyaf at newid yn yr hinsawdd drwy’r byd i gyd. Wrth i wledydd geisio bodloni nodau rhyngwladol i leihau carbon, mae’n rhaid iddynt fuddsoddi ym maes effeithlonrwydd ynni a’i gwneud yn hawdd mabwysiadu technolegau priodol.

Mae’r ymchwil ddiweddaraf gan Dr Pan He yn ystyried sut mae amrywiadau byrdymor yn y tywydd yn cael effaith ar benderfyniadau pobl yn yr Unol Daleithiau i brynu aer-dymherydd.

Cafodd cofnodion o eitemau mawr a brynwyd rhwng 2006 a 2019 eu crynhoi yn ôl model yr aer-dymherydd a’r wythnos y cafodd ei brynu. Cafodd y data hwn ei gymharu yn erbyn cofnodion yr orsaf dywydd leol i weld a fyddai pobl yn fwy tebygol o brynu model o aer-dymherydd a gymeradwywyd gan Energy Star pe bai’r tywydd yr wythnos gynt wedi cael effaith ar gysur thermol.

Mae'r canfyddiadau’n dangos y gall ffactorau meteorolegol byrdymor gael effaith ar benderfyniadau pobl i brynu cynhyrchion sy’n arbed ynni. Mae pobl yn fwy tebygol o brynu cynhyrchion oeri sy’n arbed ynni pe bai’r tywydd wedi bod yn gynhesach yr wythnos gynt. Mae hyn yn tueddu i ddigwydd yn amlach mewn mannau lle mae prisiau ynni’n uchel a lle nad yw wedi bod yn rhy oer neu’n rhy dwym yn y blynyddoedd blaenorol.

Un rheswm am hyn yw dylanwad rhagfynegi. Mae pobl yn disgwyl y bydd amodau amgylcheddol yn y dyfodol yn debyg i’r rhai presennol, er mai amrywiad byrdymor ydyw ac nid newid hirdymor.

Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y dylai llunwyr polisïau gymryd ymddygiad pobl i ystyriaeth wrth roi sylw i effaith newid yn yr hinsawdd. Byddai hefyd yn ddefnyddiol ymchwilio i’r cyfleoedd sydd ar gael i wneud ‘newid ymddygiad’ yn nod y gellir ei gyflawni’n haws i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae’r papur ‘The weather affects air conditioner purchases to fill the energy efficiency gap’ ar gael ar-lein yng nghyfnodolyn Nature Communications.

Rhannu’r stori hon