Ewch i’r prif gynnwys

Back Teeth: Casgliad cyntaf o farddoniaeth un o feirdd amlycaf ei chenhedlaeth

11 Hydref 2022

Taylor Edmonds

Mae seren y byd barddoniaeth, Taylor Edmonds, wedi rhyddhau ei chasgliad cyntaf mewn pryd ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

Gan gwestiynu a herio'r byd o'n cwmpas, mae Back Teeth yn archwilio beth yw bod yn ferch, y corff benywaidd, a'r man tywyll oddi mewn. Gan ddefnyddio cerddi yn gyfrwng i archwilio hunaniaeth, natur, a beth yw bod yn fenyw, mae Edmonds yn datgelu tirwedd hudolus a brawychus.

Mae’r casgliad yn derbyn canmoliaeth ddisglair gan feirniaid a chyd-feirdd.

“Dyma lyfr coeth sy’n llwyddo i ddod o hyd i iaith wirioneddol unigryw ac arbennig i gyfleu’r profiad o dyfu i fyny a meddiannu’r byd fel menyw. Mae'r cerddi hyn yn feiddgar, yn debyg i freuddwydion, yn llenwi’r pen ac yn mynd â’ch gwynt. Casgliad cyntaf syfrdanol a fydd yn aros gyda’r sawl sy'n ei ddarllen am amser hir." Cecilia Knapp, Little Boxes

“Mae Back Teeth yn dod o’r lle grotesg hyfryd, y lle dwfn, tywyll hwnnw sydd y tu mewn i bob merch a menyw. Bydd y casgliad cyntaf beiddgar hwn o waith y bardd yn eich gadael yn fyr eich gwynt gyda’ch ceg yn llawn blasau chwerwfelys." Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru (BA Llenyddiaeth Saesneg, Graddiodd yn 2008).

Mae’r bardd a’r awdur Taylor Edmonds (MA Ysgrifennu Creadigol, Graddiodd yn 2020) wedi’i chydnabod â Gwobr ‘Rising Stars’ gan Llenyddiaeth Cymru am waith a gafodd sylw gan Poetry Wales, BBC Cymru, Butcher’s Dog, Gwŷl Farddoniaeth Cheltenham a Parthian.

Y llynedd a hithau’n Fardd Preswyl ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, roedd ei cherdd When I Speak of Bravery yn dathlu Betty Campbell yn y digwyddiad dadorchuddio ar gyfer y cerflun cyhoeddus cyntaf sy’n dathlu menyw ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Rhannu’r stori hon