Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu llwyddiant Athena SWAN

6 Hydref 2022

Athena Swan bronze logo

Mae Gwobr Efydd Athena SWAN wedi’i rhoi i Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio am ymroi i leddfu anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod.

Mae Siarter Athena SWAN yn fframwaith a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhyweddol ym meysydd addysg uwch ac ymchwil.

Rhoddir gwobrau i sefydliadau sy’n gallu dangos lefelau cynyddol o arfer da o ran recriwtio, cadw a hyrwyddo menywod yn y meysydd hyn.

Derbyniodd yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ei gwobr drwy gysylltu â staff a myfyrwyr o bob lefel i adnabod y prif feysydd yr oedd angen mynd i'r afael â nhw er mwyn hyrwyddo mwy o gydraddoldeb o ran rhywedd, a diwylliant mwy cynhwysol yn yr ysgol. Aeth y tîm ati wedyn i gynllunio cynllun gweithredu er mwyn cyflawni amcanion uchelgeisiol dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd yr Athro Gill Bristow, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi sicrhau Gwobr Efydd Athena SWAN, sy'n dangos y cynnydd yr ydym wedi'i wneud fel ysgol mewn perthynas â chydraddoldeb rhwng y rhywiau a'n hymrwymiad parhaus i amrywiaeth o gamau gweithredu a fydd yn ein gwneud yn gymuned fwy amrywiol, cynhwysol a chyfartal.

"Diolch i'n tîm hunan-asesu a'r holl staff a myfyrwyr a gyfrannodd at ddatblygu ein cyflwyniad a'n cynllun gweithredu yr ydym bellach yn edrych ymlaen at ei gyflawni."

Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i annog a chydnabod yr ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod yng nghyflogaeth ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM).

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ehangodd y Siarter i gynnwys y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a’r gyfraith (AHSSBL), ac mae bellach yn cydnabod gwaith yr ymgymerir ag e i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhwng y rhywiau’n fwy eang.

Rhannu’r stori hon