Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun haf yn rhoi cipolwg ar faes y gyfraith i ddisgyblion yng Nghymru

7 Hydref 2022

Credyd llun: Danni Graham
Credyd llun: Danni Graham

Cafodd grŵp o ddisgyblion ysgol yng Nghymru flas ar y proffesiwn cyfreithiol ym mis Gorffennaf drwy gynllun haf a gynhaliwyd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Ymunodd yr Ysgol â’r elusen annibynnol, Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies (LEDLET), a’r fforwm cyfreithiol, Cymru’r Gyfraith, i gynnal nifer o sesiynau’n rhan o gynllun haf sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc yng Nghymru weld drostynt eu hunain sut beth fyddai gyrfa ym maes y gyfraith.

Yn ystod yr wythnos dan sylw, gwnaeth y disgyblion ymweld â sawl cwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd, gan gynnwys cysgodi bargyfreithwyr a barnwyr. Gwnaethant gwrdd â’r Arglwydd David Lloyd-Jones, Ustus Goruchaf Lys y DU, gan gynnwys cymryd rhan mewn sesiwn ceisio mechnïaeth gyda’r Barnwr Claire Sharp, Barnwr Cyflogaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth, yn ystod eu hymweliad ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Yn ogystal â mynd i sesiynau a gweithdai ar astudio’r gyfraith, cawsant wybod hefyd am sgiliau cyfreithiol a’r gyrfaoedd sydd ar gael ym maes y gyfraith.

Yn ôl cydlynydd y cynllun haf, Elisabeth John o Gymru’r Gyfraith: “Mae dau brif nod i’r cynllun haf – rhoi’r hyder i bobl ifanc o Gymru, heb unrhyw gysylltiadau â’r gyfraith, anelu’n uchel ym maes y gyfraith, a’u helpu i gyflawni’r nodau hynny drwy roi cyngor, gwybodaeth a phrofiadau iddynt. Nid oes gan y rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun rwydwaith anffurfiol o gysylltiadau i ddibynnu arno – rydym am eu helpu i ddatblygu eu rhwydweithiau eu hunain sy’n seiliedig ar deilyngdod ac awydd pendant yn unig.”

Mae'r cynllun haf blynyddol, a gynhelir yn Llundain a Chaerdydd, wedi'i anelu at unrhyw bobl ifanc o Gymru nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau yn y sector cyfreithiol. Ond disgyblion sy'n wynebu heriau penodol, ee sy'n cael prydau ysgol am ddim; yn dod o ardaloedd dan anfantais economaidd; ag anabledd, mewn gofal neu sy'n gofalu am eraill, fydd yn cael blaenoriaeth. Cynllun rhad ac am ddim yw hwn, lle mae LEDLET a Chymru’r Gyfraith yn talu’r costau.

Gwnaeth Nansi Eccott, myfyriwr LLB y Gyfraith a’r Gymraeg, gymryd rhan yn y cynllun yn 2019 a helpu i’w gydlynu eleni: “Roedd cymryd rhan yn y cynllun haf yn brofiad amhrisiadwy, ac agorodd fy llygaid i’r sector cyfreithiol. Gwnaeth y cyfle roi’r hyder i mi fentro i fyd y gyfraith, ac rwyf ar fin dechrau fy mlwyddyn olaf o astudio'r gyfraith a'r Gymraeg. Eleni, cefais y cyfle i gydlynu, cynllunio a chynnal y cynllun haf yng Nghaerdydd. Roedd yn brofiad hollol wych, a bydd y cynllun yn annog ac yn helpu disgyblion blwyddyn 12 i ddatblygu diddordeb ym maes y gyfraith. Mae'r cynllun yn agor y drws i’r posibiliadau ym maes y gyfraith yma. Mae hefyd yn galluogi’r gymuned gyfreithiol i fynd o nerth i nerth. Rwy'n hynod ddiolchgar am fod yn rhan o'r gymuned hon, sy'n parhau i roi cyfleoedd, cyngor ac ysbrydoliaeth i mi.”

Bydd modd cyflwyno cais ar gyfer cynllun haf 2023 ym mis Chwefror 2023 ar wefannau LEDLET a Chymru’r Gyfraith.

Rhannu’r stori hon