Ewch i’r prif gynnwys

Diben yr astudiaeth yw cynyddu ein dealltwriaeth o anafiadau trawmatig i'r ymennydd wrth chwarae pêl-droed

29 Medi 2022

Nod y prosiect ymchwil ar y cyd rhwng yr Ysgol Peirianneg a Phrifysgol Talaith Mississippi yw cynyddu ein dealltwriaeth o anafiadau trawmatig i'r ymennydd wrth chwarae pêl-droed.

Ymchwiliodd yr astudiaeth, a ddechreuodd yn 2020, i effaith gwrthdrawiad y bêl yn erbyn pen chwaraewyr pêl-droed.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Dr Mike Jones, Darllenydd Peirianneg Glinigol, Trawma ac Orthopaedig ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o Ganolfan Ragoriaeth Feddygol FIFA a Labordy Rhyngwladol Mecaneg yr Ymennydd a Thrawma ym Mhrifysgol Rhydychen, ym Mhrifysgol Talaith Mississippi ar y cyd â Dr Raj Prabhu, cyn-Athro Cyswllt sydd bellach yn Wyddonydd Prosiectau yn NASA, Dr Hamed Bakhtiarydavijani, Peiriannydd Ymchwil, a Dr Youssef Hammi, Athro Cyswllt yn yr Adran Peirianneg Fecanyddol.

Roedd y canlyniadau'n dangos gwahaniaeth dramatig rhwng symudiad y pen a’r ymennydd ymhlith chwaraewyr a oedd yn ymwybodol o wrthdrawiad y bêl yn erbyn y pen a'r rheini nad oeddyn nhw’n ymwybodol o hyn.

Pan fydd pêl yn dod tuag at chwaraewr, byddan nhw'n caledu’u gwddf wrth ddisgwyl am y gwrthdrawiad. Pan na fydd pobl yn gwybod y bydd gwrthdrawiad, nid oes modd iddyn nhw paratoi’u gwddf, ac mae hyn yn arwain at berygl llawer uwch o gael eich anafu. Pan fydd chwaraewr yn cael ei guro'n anymwybodol gan bêl-droed, oherwydd bod cyhyrau ei wddf yn llac, bydd y pen yn symud yn fwy ac yn gyflymach. Mae’r symudiadau sydyn hyn yn peri i feinwe'r ymennydd ymestyn, gan gynyddu'r risg o anaf i'r ymennydd. Fodd bynnag, bydd pen chwaraewyr sy’n gwybod bod y bêl yn nesáu’n symud yn llai ac felly ymaen nhw’n llai tebygol o gael eu hanafu. 

Gosodwyd canllawiau eisoes yn y Deyrnas Unedig ar gyfer grwpiau oedran o dan 12 oed o ran penio pêl-droed. Chaiff chwaraewyr iau, er enghraifft, ddim taro'r bêl â’u pen fel yn achos chwaraewyr gemau proffesiynol oherwydd y peryglon o gael eu hanafu. 

Mae pêl-droed yn mynd yn fwyfwy poblogaidd yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig mewn ysgolion. Gellid defnyddio'r ymchwil hon i helpu i greu canllawiau diogelwch ar gyfer y gamp mor gynnar â phosibl, a hynny i geisio atal niwed corfforol i chwaraewyr yn nes ymlaen.

Y prosiect ymchwil hwn yw'r ail brosiect ymchwil ar y cyd rhwng Dr Mike Jones a Phrifysgol Talaith Mississippi. Cynhaliwyd astudiaeth yn 2017 i ddatblygu ein ddealltwriaeth o drawma i ben babanod, un o brif achosion marwolaeth ymhlith plant ifanc. 

Yn yr Ysgol Peirianneg, rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Phrifysgol Talaith Mississippi.

Rhannu’r stori hon