Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd yn derbyn Cymrodoriaeth Ddiwydiannol yr Academi Beirianneg Frenhinol

19 Hydref 2022

Mae Uwch-ddarlithydd Roboteg a Systemau Ymreolaethol yn yr Ysgol Peirianneg wedi derbyn cymrodoriaeth gan yr Academi Beirianneg Frenhinol am ei waith gyda diwydiant.

Cyhoeddwyd mai Dr Ze Ji yw un o'r rhai sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Ddiwydiannol gan yr Academi Beirianneg Frenhinol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i ymchwilwyr academaidd profiadol ganolbwyntio ar ymchwil amser llawn am hyd at ddwy flynedd.

Mae ffocws ymchwil Ze ym maes gallu gwybyddol robot gwell. Ef yw arweinydd grŵp Roboteg a Pheiriannau Deallus Ymreolaethol (RAIM) ac Arweinydd Thema'r Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant Dynol (IROHMS).

Yn ystod ei gymrodoriaeth, bydd Dr Ji yn ymgymryd â phrosiect ymchwil ar y cyd gyda'i bartner diwydiannol Spirent Communications. O'r enw, 'Active Perception and Learning for Autonomous Navigation', bydd y prosiect yn archwilio llywio robotiaid ymreolaethol mewn amgylcheddau anhysbys a distrwythur.

Mae annibynadwyedd llywio ymreolaethol yn rhwystro defnyddio ymreolaeth lefel uchel mewn gwahanol amgylcheddau, yn enwedig yn ystod tasgau lle mae diogelwch yn hollbwysig. Ynghyd â Spirent Communications, bydd Dr Ji yn archwilio fframwaith a fydd yn gwella llywio ymreolaethol, gan ei wneud yn fwy hyblyg ac addasol i wahanol amgylcheddau gwaith. Gan ddefnyddio algorithmau dysgu peiriannau, bydd y fframwaith yn cefnogi canfyddiad robot a dehongli'r amgylchedd sy'n galluogi penderfyniadau gorau posibl a pherfformiad gwell.

Bydd y prosiect hwn yn cyflymu ein hymchwil gydweithredol a sefydlwyd eisoes gyda'r datblygwr technoleg blaenllaw Spirent Communications ac yn cryfhau'r berthynas strategol rhwng y diwydiant a Phrifysgol Caerdydd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi buddsoddi'n sylweddol mewn labordai o'r radd flaenaf a chanolfan ymchwil IROHMS i wella'n gallu ym maes roboteg a deallusrwydd artiffisial.

Rhannu’r stori hon