Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Mathemateg a Chemeg yn helpu tîm Prifysgol Caerdydd i guro Prifysgol Coventry yn University Challenge

27 Medi 2022

The Cardiff University team
The Cardiff University team

Rhoddodd Prifysgol Caerdydd gryn berfformiad nos Lun (19 Medi), a llwyddodd i sicrhau buddugoliaeth argyhoeddiadol yn erbyn Prifysgol Coventry.

Zoe Revell, sy’n astudio Mathemateg, oedd capten y tîm. Aelodau eraill y tîm oedd Will Balkhill-Western (Cemeg), John Wimperis (Newyddiaduraeth) ac Ella Freeman (Seicoleg). Roedd y tîm ar ei hôl hi i ddechrau am fod Prifysgol Coventry 20 pwynt ar y blaen. Fodd bynnag, llwyddodd Prifysgol Caerdydd i ddal i fyny’n gyflym ac ennill y blaen, a pharhaodd i ateb cwestiynau'n gywir yn ystod y rownd.

Er bod Prifysgol Coventry wedi ennill 50 o bwyntiau, llwyddodd Prifysgol Caerdydd i ennill 230 o bwyntiau a buddugoliaeth wych.

Dywedodd Zoe Revell, capten tîm Prifysgol Caerdydd:

“Cystadlu yn University Challenge yw’r peth gorau a mwyaf cŵl i mi ei wneud erioed, a bydd y profiad yn un anodd ei guro! Roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan, hyd yn oed pan oeddwn i’n tynnu gwallt fy mhen ac yn gwylltio pan nad oeddwn i’n gallu cofio enw arlunydd neu fathemategydd. Fe wnes i fwynhau cymaint oherwydd bod modd i mi ymarfer gyda thîm mor anhygoel bob wythnos. Ein sesiynau hyfforddi yw’r peth rydw i’n ei golli fwyaf! Anrhydedd oedd bod yn gapten ar y tîm, ac rydw i mor falch ein bod ni wedi gallu gwneud Prifysgol Caerdydd yn falch ohonon ni yn rownd un! Anrhydedd hefyd oedd chwarae yn erbyn Prifysgol Coventry. Roedd y tîm mor hyfryd a chroesawgar.”

Gwnaeth Will Balkhill-Western, sy’n astudio Cemeg, hefyd fwynhau’r profiad yn fawr. Dywedodd:

“Rydw i’n gwybod bod pobl yn sôn cymaint am effaith y stiwdio a sut mae eistedd o flaen y camera mor wahanol i weiddi’r atebion ar y teledu, ond fe wnaeth yr amgylchedd yn y stiwdio wirioneddol gynyddu’r pwysau.

Unwaith i ni setlo, dechreuon ni ddod iddi, ac roeddwn i wedi gallu anghofio am y camerâu oedd yn fy ngwylio i. Roedd o gymorth mawr hefyd bod ein tîm ni’n dod ymlaen yn dda iawn – gwnaeth hynny dawelu’r nerfau cryn dipyn.

Fe gawson ni gyfle i gael sgwrs gydag aelodau tîm Prifysgol Coventry cyn ac ar ôl ffilmio. Roedden nhw’n griw hwyliog iawn ac yn bobl mor gynnes a chyfeillgar. Roedd staff University Challenge yn gwbl gefnogol a chroesawgar, hefyd. Yn gyffredinol, roedd yn brofiad bythgofiadwy ac yn anrhydedd fawr, a byddwn i’n argymell rhoi cynnig arni i unrhyw un sy’n hoffi cystadlu mewn cwisiau. Rydw i'n falch iawn o’r tîm. Tipyn o gamp yw bod yn ddigon da i gystadlu ar y teledu. Felly, mae ennill y sgôr honno’n wirioneddol anhygoel.”

Bydd Prifysgol Caerdydd nawr yn symud ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth – pob lwc i’r tîm!

Rhannu’r stori hon