Ewch i’r prif gynnwys

Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi'i ysbrydoli gan gariad at ieithoedd

27 Medi 2022

© Dafydd Owen | ffotoNant

Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion eleni oedd myfyriwr Ieithoedd Modern, ar ôl i'w ddiddordeb angerddol mewn ieithoedd fagu awydd ynddo i ddysgu Cymraeg.

Nid oedd Joe Healy, sy'n wreiddiol o dde Llundain, erioed wedi bwriadu dysgu ieithoedd, ond unwaith iddo ddechrau gwneud hynny, roedd yn gwybod nad oedd am stopio. Ffrwyth yr holl waith hwnnw yw ennill y wobr arbennig hon.

Astudiodd Joe Sbaeneg (BA) gyda Chatalaneg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, a dechreuodd ddysgu Cymraeg ar ôl cael ei ysbrydoli gan bartner a oedd yn rhugl. Wrth iddo drochi ei hun yn y diwylliant a'r celfyddydau, datblygodd ei awydd i ddysgu’r iaith.

© Dafydd Owen | ffotoNant

Yn ogystal â defnyddio adnoddau fel cyrsiau Cymraeg i Bawb y Brifysgol ac apiau ac offer ar-lein fel Say Something in Welsh, mae Joe yn dweud ei fod wedi dysgu Cymraeg 'ar y stryd'.

Dywedodd: “Mae 95% o fy nysgu, yn enwedig o ran Cymraeg llafar, wedi digwydd drwy gymdeithasu â phobl yn yr iaith a gofyn cwestiynau.”

Gan ychwanegu gwrando ar gerddoriaeth a gwylio rhaglenni teledu plant at ei restr o offer, dywedodd: “Mae gwneud pethau rydych chi'n mwynhau eu gwneud yn mynd i helpu llawer mwy na darllen llyfr i ddysgu, yn fy marn i. Mae angen gwneud cymysgedd o bethau i gyd ar unwaith, yn enwedig o ran y Gymraeg, gan fod yr iaith yn amrywio cymaint yn ôl lleoliad a sefyllfa. Mae'n cymryd amser i sylweddoli nad oes un ffordd gywir o'i defnyddio, ond yn hytrach lawer o ffyrdd gwahanol, a pho fwyaf y byddwch chi’n siarad ac yn gwrando ar yr iaith, mwyaf y byddwch chi’n sylweddoli hynny!”

Oherwydd ei gariad at ieithoedd, mae’n astudio ar gyfer PhD ar hyn o bryd sy'n edrych ar wleidyddiaeth gyfoes Sbaen a Ffrainc. Mae Joe yn cytuno bod pob iaith y mae'n ei dysgu’n helpu i hwyluso ei feistrolaeth ar y nesaf, ac mae'n defnyddio sgiliau a ddatblygwyd yn y brifysgol i gynorthwyo â'r broses hon.

“Ar un adeg, dywedodd fy narlithwyr mai’r goeden Nadolig oedd y gramadeg, a’r addurniadau oedd yr eirfa. Mae angen y goeden cyn y gallwch chi ei haddurno. Felly, wrth ddysgu unrhyw iaith newydd, rwy’n ceisio cyrraedd pwynt cyn gynted â phosibl lle rwy’n gallu creu brawddegau – dydy gwneud hynny ddim yn hawdd, ond mae'n hanfodol. Yna, gallwch chi ddefnyddio'r iaith i ddisgrifio pethau a sgwrsio â phobl – dyna pryd y gallwch chi ddechrau cael hwyl.”

Ar ôl gorffen astudio, hoffai Joe ddilyn gyrfa ym maes ieithoedd a pharhau i wella ei Gymraeg ysgrifenedig a ffurfiol, gan ei gwneud yn rhan hanfodol o fywyd gwaith yn y dyfodol. Tan hynny, mae'n parhau i ddefnyddio o leiaf ddwy iaith yn ddyddiol ac yn dadlau dros amlieithrwydd i ehangu'r meddwl. “Daw rhyfeddod ieithoedd o'r amrywiaethau eu hunain, y bydoedd newydd y maen nhw’n eu datgelu a’r cefnlenni hanesyddol a diwylliannol. Allwch chi ddim cael hynny drwy gadw at y Saesneg, neu unrhyw iaith arall o ran hynny. Mae ieithoedd yn ein helpu i ddathlu'r cymhlethdod hyfryd y mae'r byd yn ei gynnig ac yn ein galluogi i amgylchynu ein hunain ag ef.”

[Fideo]

Rhannu’r stori hon