Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyriwr yr Ysgol Cerddoriaeth yn dod yn aelod o'r Academi Recordio

26 Medi 2022

Image of Rachel Walker Mason standing next to a number of awards

Mae Rachel Walker Mason, un o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth ac enillydd dros 80 o wobrau cerddoriaeth arbennig, wedi’i gwneud yn aelod o’r Academi Recordio (GRAMMY).

Mae'r Academi Recordio’n cynnwys cerddorion, cynhyrchwyr, peirianwyr recordio a gweithwyr recordio proffesiynol eraill sydd wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd cerddorion a chyflwr diwylliannol cerddoriaeth.

Er mwyn dod yn aelod o GRAMMY, mae angen i ddau aelod presennol argymell yr unigolyn drwy fanylu ar ei gysylltiad proffesiynol ac esbonio pam maent yn credu y dylid ei dderbyn. Dim ond dau argymhelliad y caiff pob aelod sy’n pleidleisio o'r Academi eu gwneud bob blwyddyn.

Yna, gwahoddir yr enwebeion i baratoi cais sy’n cynnwys disgrifiad llawn o'u gyrfa hyd yma, eu haddysg, eu recordiadau, eu gwobrau, y gwaith elusennol a wnaed ganddynt, y gwasanaethau mentora a gafwyd ganddynt ac unrhyw beth arall sydd o ddiddordeb i'r bwrdd beirniadu.

Wrth sôn am ei chyflawniad, dywedodd Rachel: “Braint enfawr yw hyn! Mae miloedd ar filoedd o gerddorion ledled y byd yn ymgeisio bob blwyddyn, sy’n golygu bod y siawns o gael eich dewis yn fach.”

Wrth sôn am ei chyfnod yn yr Ysgol Cerddoriaeth, dywedodd Rachel: “Roeddwn yn caru dinas Caerdydd. Roeddwn wedi gwybod ers pan oeddwn yn ferch fach y byddwn yn gerddor. Felly, ar ôl astudio ar gyfer fy nghymwysterau Safon Uwch, parheais â’m haddysg gerddorol yn fy hoff ddinas.

“Mae’n brifysgol wych â chymaint o glybiau a chymdeithasau anhygoel y gallwch ymuno â nhw, bywyd nos gwych a lleoliadau cerddoriaeth fyw ddiddiwedd lle gallwch glywed cerddorion byd-enwog a lleol unrhyw noson o’r wythnos.”

Ar ôl graddio o’r Ysgol Cerddoriaeth yn 2003, dechreuodd Rachel addysgu canu a chynnal grwpiau harmoni lleisiol, gan gynnwys Côr Sioe Euphoria, sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n perfformio ar draws y byd.

Ers hynny, mae Rachel wedi bod yn ysgrifennu caneuon ar y cyd ag artistiaid ac ar eu cyfer, gan gynnwys enillwyr gwobrau GRAMMY, Emmy ac Ivor Novello, cyn-gystadleuwyr The Voice UK ac American Idol, enwebeion ar gyfer gwobrau Oscar, enwebeion ar gyfer gwobrau MOBO a BRIT ac enillwyr gwobrau AMA-UK a’r Gymdeithas Canu Gwlad.

Ar ôl dioddef o iselder ôl-enedigol, creodd Rachel weithdai ysgrifennu caneuon Lyrical Light ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl mamol. Yn y gweithdai hyn, byddant yn ysgrifennu caneuon wedi’u personoli i’w helpu i wella.

Yn dilyn y gweithdai hyn, ysgrifennodd Rachel y llyfr poblogaidd Not the Only One, sy’n cynnwys geiriau a straeon go iawn gan y rhai sydd wedi dioddef o salwch meddwl ers dod yn rhieni.

Mae rhagor o wybodaeth am gyflawniadau Rachel a'i gyrfa hyd yma ar gael ar ei gwefan.

Rhannu’r stori hon