Carnau – datgelu dirgelwch beddau yn ardal y Môr Baltig lle mae ceffylau a bodau dynol ers dros fil o flynyddoedd
20 Medi 2022
Mae arbenigwyr ar fin datgloi cyfrinachau cymunedau a oedd yn trysori ceffylau dros y canrifoedd mewn prosiect amlddisgyblaethol rhyngwladol newydd.
Mae bioarcheolegwyr a gwyddonwyr yn cydweithio i ddeall y defodau cyhoeddus a oedd yn ganolog i ddiwylliant llwythau’r Môr Baltig o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig, trwy gyfnod cythryblus yr Ymfudo a’r cyfnod Llychlynnaidd, i'r cyfnod canoloesol pan oedden nhw’n wynebu cael tröedigaeth a chael eu gwladychu dan orfodaeth urddau croesgadau Almaenaidd.
Darganfuwyd miloedd o geffylau ledled de-ddwyrain ardal y Môr Baltig mewn mynwentydd dynol o'r 2il hyd at y 14eg ganrif OC. Mae aberth fel rhan o angladdau cyhoeddus ar y fath raddfa o ddiddordeb i archeolegwyr ers amser maith.
Mae arbenigwyr o 6 chanolfan Ewropeaidd yn ymchwilio i fywyd defodol diddorol llwythau’r Môr Baltig mewn astudiaeth gynhwysfawr o ddyddodion anifeiliaid mewn mannau cysegredig gan adeiladu ar gamau arloesol cyffrous mewn gwyddoniaeth archeolegol. Mae aberthu ceffylau yn ardal y Môr Baltig yn cael eu hastudio ers dros 100 mlynedd, ond bellach mae’r dechnoleg gennym i ymdrin â chwestiynau sydd gennym ers amser maith. Pam roedd unigolion yn cael eu dewis? Sut roedden nhw’n cael eu haberthu? I ba raddau roedd arwyddocâd defodol i anifeiliaid eraill? A sut effeithiodd cyfnodau cythryblus ar fywyd defodol cymunedau’r Môr Baltig dros amser?
Mae prosiect Baltic paganism, Osteology, and New Evidence from Zooarchaeology (BONEZ), a arweinir gan Dr Katherine French ac a oruchwylir gan Dr Richard Madgwick, yn ehangu’r sylw i'r arferion diwylliannol diddorol hyn. Dros ddwy flynedd, mae tîm BONEZ yn cyfuno technegau sefydledig a newydd sy'n gweithredu ar y lefel facrosgopig, microsgopig a moleciwlaidd i ail-greu hanes bywyd y ceffylau a'r anifeiliaid eraill, a hynny er mwyn deall pam gallent fod wedi'u dewis ar gyfer defodau penodol a pha adnoddau a ddefnyddid i gynnal system o'r fath.
Bydd y data a ddaw o ganlyniad yn dangos sut newidiodd defodau cyhoeddus dros amser, gan ddangos sut esblygodd y cymunedau Baltig hyn o ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid i'r cyfnodau Canoloesol Cynnar, gan gynnwys safleoedd dros 90,000 km2 o ogledd-ddwyrain Gwlad Pwyl a Lithwania i Kaliningrad yn Rwsia heddiw.
Bydd yr ymchwil amlraddfa hwn yn astudiaeth achos allweddol mewn dadansoddiad osteo-olegol integredig o gasgliadau ysgerbydol cymhleth, gan ddarparu glasbrint ar gyfer ymchwilwyr sy'n ymdrin â chwestiynau tebyg ar draws cyd-destunau eang.
Am y tro cyntaf yn y byd, bydd y tîm ymchwil yn adrodd am brosesu anifeiliaid o'r lefel foleciwlaidd i ddadansoddiad rhanbarthol o sut roedd defodau amrywio ar draws rhanbarth Dwyrain y Môr Baltig. Gan ddefnyddio technegau newydd sbon wrth ddadansoddi isotopau strontiwm o esgyrn wedi’u llosgi, bydd yr ymchwil yn trawsnewid y ddealltwriaeth o sut roedd ceffylau a phobl yn symud, a bydd yn gallu datgloi potensial ymchwil mewn meysydd eraill.
Wrth arwain yr astudiaeth, eglura Dr French:
“Gall y fframwaith newydd hwn ar gyfer integreiddio gwahanol fathau o dystiolaeth ar raddfeydd lluosog ail-greu gweithgaredd defodol o gasgliadau ysgerbydol nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol. Yn draddodiadol, nid oedd dyddodion ysgerbydol nad oedd wedi cadw’n dda neu esgyrn wedi'u llosgi yn rhoi llawer o wybodaeth. Gyda datblygiadau mewn aDNA, dadansoddi isotopau, histoleg, a phroteomeg, rydyn ni bellach yn gallu ail-greu, er enghraifft, lle cafodd ceffyl ei eni a'i fagu, ei ryw, efallai lliw ei gôt – a’r cyfan i gyd o un dant.
“Mae cyfuno dadansoddiadau moleciwlaidd ag osteoleg a histoleg draddodiadol yn rhoi’r darlun mwyaf cynhwysfawr wedi’i ail-lunio o fywyd, marwolaeth, ac arwyddocâd defodol anifail. Pecyn Adnoddau Osteolegol Amlbrocsi yw ein henw ar integreiddio dulliau fel hyn. Gan fod ein pecyn adnoddau’n gallu cael ei gymhwyso at unrhyw gyd-destun daearyddol neu amserol, bydd ganddo fanteision etifeddiaeth pellgyrhaeddol o ran gwella potensial deongliadol dyddodion ysgerbydol eraill a esgeuluswyd yn flaenorol.”
Ymhlith tîm BONEZ mae Darllenydd Gwyddoniaeth Archeolegol Prifysgol Caerdydd, Dr Richard Madgwick, yr Athro John Hines, Dr Morten Anderson a Dr Marc-Alban Millet (cyd-gyfarwyddwyr Labordy Daear Caerdydd ar gyfer Elfennau Hybrin a Chemeg Isotop) a phartneriaid y prosiect yr Athro Aleksander Pluskowski (Prifysgol Reading), yr Athro Matthew Collins (Prifysgol Caergrawnt), Dr Linas Daugnora (Prifysgol Klaipėda, Lithwania), yr Athro Maciej Karczewski (Prifysgol Białystok, Gwlad Pwyl), Dr Roman Shiroukhov (Canolfan Archeoleg Baltig a Llychlynnaidd, Schleswig, yr Almaen), a'r Athro Katarzyna Ropka-Molik (Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Cynhyrchu Anifeiliaid, Gwlad Pwyl).
Mae’r prosiect a ddechreuwyd ym mis Medi 2021 Paganiaeth Baltig, Osteoleg, a Thystiolaeth Newydd o Sŵarcheoleg yn cael ei ariannu gan Gymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie, rhaglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd [€224,934, cytundeb grant 893072]. I gael gwybodaeth am y newyddion diweddaraf, dilynwch y prosiect ar Instagram.
Mae bioarcheolegydd y cyfnod canoloesol, yr ymchwilydd Dr Katherine French yn canolbwyntio ar bwysigrwydd symbolaidd a chrefyddol anifeiliaid i gymunedau.