Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Oriel Prizeman ar restr fer gwobr fawreddog Colvin

9 Medi 2022

Long Eaton Library
Long Eaton Library

Mae cyhoeddiad yr Athro Oriel PrizemanThe Carnegie Libraries of Britain: A Photographic Chronicle, sef un o allbynnau’r prosiect Shelf-Life (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau), wedi cyrraedd rhestr fer Cymdeithas Haneswyr Pensaernïol Prydain Fawr (SAHGB).

Y cyhoeddiad hwn yw'r cyntaf o'i fath i grynhoi a darlunio'n llawn y 424 o lyfrgelloedd cyhoeddus sy'n weddill ym Mhrydain. Cafodd y rhain eu hariannu gan Andrew Carnegie ac arweiniodd y 2400 o grantiau ledled y byd ganddo at safoni dyluniadau cyhoeddus ar bob ochr i’r Iwerydd. Mae'n dangos pa mor fawr oedd cwmpas daearyddol y cyfraniad byr ond unigryw hwn at y byd cyhoeddus cyfarwydd ym Mhrydain yn ogystal â pha mor gyflym yr oedd wedi ymledu. Mae’r e-lyfr hwn, sy’n rhan o offer digidol gwefan prosiect Shelf-Life a ariennir gan yr AHRC, ar gael i bawb.

Dyma a ddywedodd yr Athro Prizeman: “Rwyf wrth fy modd a braint yw cael bod ar y rhestr hon.”

Sefydlwyd Gwobr Colvin yn 2017 ac mae’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i awdur neu awduron cyfeirlyfr rhagorol sy’n ymwneud â maes eang hanes pensaernïol. Mae pob dull cyhoeddi yn gymwys, gan gynnwys catalogau, rhestrau cyhoeddedig, cronfeydd data digidol ac adnoddau ar-lein. Enwyd y Wobr er anrhydedd i Syr Howard Colvin, cyn-lywydd y Gymdeithas, ac un o ysgolheigion amlycaf yn hanes pensaernïol yr ugeinfed ganrif. Mae’r enillwyr yn derbyn medal goffa a ddyluniwyd gan y medalydd cyfoes Abigail Burt a bydd eu henwau’n cael eu cyhoeddi yn Narlith a Seremoni Wobrwyo Flynyddol y Gymdeithas ym mis Rhagfyr 2022.

Yr Athro Oriel Prizeman yw Arweinydd Rhaglen yr MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. I gael gwybod rhagor am y rhaglen hon a gwneud cais ewch idudalennau gwe'r cwrs.

Rhannu’r stori hon