Ewch i’r prif gynnwys

Torri arferion gwael

28 Ebrill 2016

Car exhaust

Mae astudiaeth o 18,000 o breswylwyr y DU wedi canfod bod pobl sydd newydd symud tŷ yn llawer llai tebygol o deithio i'r gwaith mewn car, gan ddewis dull mwy gwyrdd o deithio yn lle hynny.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gweld y newid ymddygiad hwn yn ystod y chwe mis cyntaf y bydd unigolyn yn byw mewn tŷ newydd. Ar ôl hyn, dangosir bod preswylwyr yn troi yn ôl at hen arferion, ac yn fwy tebygol o ddechrau defnyddio car unwaith eto i deithio i'r gwaith.

Creda'r tîm, sydd wedi ysgrifennu yn y cyfnodolyn PLoS One, bod y newid agwedd cychwynnol hwn yn rhannol o ganlyniad i'r cythrwfl mawr sy'n gysylltiedig â symud tŷ, sy'n gorfodi preswylwyr i ailystyried eu harferion presennol.

Dywedodd Dr Gregory Thomas, o Ysgol Pensaernïaeth y Brifysgol: "Mae symud cartref yn aml yn gyfnod o newid mawr ym mywydau pobl, lle caiff yr hen drefn a hen arferion eu torri. Rydym wedi dangos y bydd cyfran fawr o breswylwyr y DU yn ailystyried y ffordd y maent yn teithio i'r gwaith yn ystod y cyfnod hwn."

Daeth yr ymchwilwyr at eu canfyddiadau drwy ddadansoddi set data 'Deall Cymdeithas' y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) – astudiaeth hydredol o 40,000 o gartrefi yn y DU, a oedd yn mesur agweddau ac ymddygiad dros amser. Yr arolwg hwn yw'r mwyaf o'i fath yn y byd, ac mae'n cynnig dealltwriaeth eang o sut mae bywyd yn y DU yn yr 21ain ganrif yn newid.

Dangosodd y canlyniadau hefyd bod agweddau at yr amgylchedd yn rhan fawr o benderfyniad unigolyn i chwilio am ffyrdd amgen o deithio i'r gwaith, pan fydd wedi symud tŷ.

"Roedd pobl ag agwedd fwy gwyrdd nad oeddent wedi byw yn eu cartrefi presennol am amser maith, yn llawer llai tebygol o deithio i'r gwaith mewn car na'r rheini ag agwedd amgylcheddol wannach," parhaodd Dr Thomas. "Ond er bod agweddau mwy gwyrdd yn arwain at ddefnyddio car yn llai aml yn syth ar ôl symud, roeddem yn gweld bod agweddau gwyrdd pobl yn dod yn llai pwysig wrth ddewis eu dull teithio, wrth iddynt dreulio mwy o amser yn byw yn yr un lleoliad."

Drwy nodi'r newid ymddygiad hwn, mae'r ymchwilwyr yn credu bod cyfle i lunwyr polisi hybu ymddygiad o blaid yr amgylchedd ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol.

Ychwanegodd yr Athro Wouter Poortinga, hefyd o Ysgol Pensaernïaeth y Brifysgol: "Mae newid naturiol mewn ymddygiad, fel symud tŷ, yn gyfle gwych, oherwydd gallai pobl fod yn fwy agored i wybodaeth newydd neu gefnogaeth, a allai eu hannog i lynu at ddewisiadau teithio iach a chynaliadwy. Gallai llunwyr polisi ddefnyddio'r cyfnod hwn i ddarparu gwybodaeth allweddol ar adeg pan mae pobl yn barod i ymgysylltu ag ymddygiad newydd."

Rhannu’r stori hon