Ewch i’r prif gynnwys

Data newydd yn datgelu gwahaniaeth hiliol mewn arestiadau yng Nghymru

3 Medi 2022

Mae data newydd ar gyfer Cymru yn unig wedi’u cyhoeddi, sy’n cadarnhau graddau’r gwahaniaethau hiliol mewn cyfraddau arestio gan heddluoedd yng Nghymru.

Cafodd y data diweddaraf a ryddhawyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd eu cyhoeddi gan Wales Online. Yn ystod 2020/21, roedd 53 o arestiadau am bob 1,000 o bobl ddu o gymharu â 12 ar gyfer pob 1,000 o bobl wyn. Mae’r sefyllfa, yn ôl y data, hyd yn oed yn fwy anghymesur na’r sefyllfa yn Lloegr. Yn y flwyddyn 2020/21 y gyfradd arestio ar gyfer Pobl Ddu fesul 1,000 oedd 53 yng Nghymru a 29 yn Lloegr.

Cynhyrchwyd y data gan geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, ac maent bellach ar gael yn gyhoeddus ar gyfer Cymru am y tro cyntaf.

Dywedodd Dr Robert Jones, darlithydd ac ymchwilydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Mae’r data diweddaraf hyn yn atgyfnerthu’r dystiolaeth bresennol sy’n dangos bod unigolion o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn cael eu gorgynrychioli o fewn system cyfiawnder troseddol Cymru. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth bod unigolion o gefndiroedd nad ydynt yn wyn yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u chwilio gan yr heddlu, eu dedfrydu i garchar a chael cyfnodau hirach yn y carchar, o’u cymharu â phobl wyn yng Nghymru.

“Mae’r data’n tanlinellu ymhellach yr angen am fwy o graffu ar system cyfiawnder troseddol Cymru ac i ddata Cymraeg yn unig fod ar gael i bawb ei weld. Er ei bod yn bwysig cydnabod bod problem hiliaeth systemig yn ymestyn y tu hwnt i baramedrau system cyfiawnder troseddol Cymru, mae’r dystiolaeth yn dangos bod canlyniadau anghymesur ar gyfer pobl nad ydynt yn wyn o fewn y system honno yn parhau heb eu datrys. Y gobaith yw y bydd y wybodaeth rydym wedi’i datgelu yn gallu cyfrannu at Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru a’i gwaith parhaus ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru.”

Mae data a ryddhawyd yn flaenorol ar ddedfrydu, dalfa a stopio a chwilio wedi dangos tystiolaeth debyg o wahaniaethau hiliol o fewn y system cyfiawnder troseddol a'r gymdeithas ehangach.

Rhannu’r stori hon