Ewch i’r prif gynnwys

Mae clwb pêl-droed gwyrdd cyntaf y byd yn symud pyst gôl yr hyn a ddisgwylir gan sefydliadau chwaraeon

25 Awst 2022

Mae clwb pêl-droed Cynghrair Un yn cael effaith leol a byd-eang ar gynaliadwyedd, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Mewn dau bapur a gyhoeddwyd yn Qualitative Market Research a’r Journal of Business Ethics, mae academyddion yn manylu ar y ffyrdd y mae Forest Green Rovers wedi newid pob agwedd ar ei harferion i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd – o werthu bwyd fegan yn unig, gan gynhyrchu ei drydan ei hun trwy osod paneli solar, i'r ffordd y caiff y cae ei gynnal a'i gadw.

Ei hethos yw llwyddo i newid agweddau chwaraewyr a chefnogwyr fel ei gilydd, tra'n ei roi ar lwyfan byd-eang, maen nhw'n dod i'r casgliad.

Dywedodd Dr Anthony Samuel, o Ysgol Busnes Caerdydd, a dreuliodd ddwy flynedd yn rhan o’r clwb: “Mae pobl yn disgwyl clywed negeseuon am gynaliadwyedd mewn rhai mannau – mewn caffi fegan er enghraifft. Ond mae'r ffaith bod hyn yn digwydd mewn cyd-destun mor wahanol yn dwysáu’r effaith ar y rhai sy'n ymweld â Forest Green Rovers. Gwelsom hyn yn ein cyfweliadau â'r rhai a ddaeth i gysylltiad â'r clwb. Dywedodd chwaraewyr, cefnogwyr a rhanddeiliaid eraill sy'n gysylltiedig â'r clwb eu bod wedi dechrau bwyta llai o gig yn eu bywydau o ddydd i ddydd, a'i fod wedi newid y ffordd maen nhw'n meddwl am gynaliadwyedd.

“Ar ben hynny, mae’n llwyddo i roi’r clwb, sydd newydd fynd lan i Gynghrair Un, ar y map o amgylch y byd, gyda phobol o’r diwydiant yn dod i ddarganfod sut y gallen nhw fabwysiadu arferion tebyg.

“Mae’n ddiamau fod Forest Green Rovers wedi datblygu math newydd o bêl-droed, un sy’n dangos i ni sut y gall seilwaith cymdeithasol-ofodol wedi’i ail-ddychmygu arwain at arferion newydd, cyfrifoldebau newydd a hunaniaeth newydd i’r rhai sy’n llunio ac yn meddiannu ei le.”

Dr Anthony Samuel

Mae'r papurau'n manylu ar sut mae arweinyddiaeth ideolegol Dale Vince wedi arwain at newidiadau sylweddol i arferion ac isadeiledd y clwb. Mae cyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael i staff ac ymwelwyr pan fyddant yn ymweld wedi bod yn hollbwysig er mwyn ennill momentwm i gefnogi’r newidiadau, yw casgliad y papur yn Qualitative Market Research.

Mae dileu'r opsiwn o brynu cynhyrchion sydd â record amgylcheddol neu gymdeithasol wael wedi newid diwylliant y clwb yn ddramatig, meddai'r ymchwil, gyda'i gyflawniadau o ran gwella ei effaith gymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu parchu'n eang ymhlith ei gefnogwyr, ei drigolion a sefydliadau byd-eang.

Mewn papur yn y Journal of Business Ethics, mae ymchwilwyr yn nodi bod ffurfiau lluosog o weithredoedd y tu hwnt i’r gofyn - lle mae'r busnes wedi mynd yr ail filltir yn eu hymdrechion - yn ychwanegu at ei ddilysrwydd a bod rhannu ei arferion ag eraill o fudd iddo ac eraill y tu hwnt i'w gymuned leol. Ychwanegodd Dr Samuel: “Mae ein hymchwil yn brawf y gallai clybiau pêl-droed, sy’n aml yn cael eu hystyried yn sefydliadau masnachol sy’n rhoi elw a thlysau’n gyntaf, gynnal a hyd yn oed wella eu llwyddiant a’u safle ar lwyfan y byd, tra’n canolbwyntio ar werthoedd moesegol a chynaliadwyedd.

“Yn ehangach, mae’n dangos sut y gall Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) fel yr un hwn fod yn rhan bwysig o’n hymdrechion ar y cyd tuag at ddatblygu dyfodol cynaliadwy.”

Mae “The club on the hill”: footballing place as an arena for sustainable and ethical action”, wedi’i gyhoeddi yn Qualitative Market Research ac mae ar gael i’w weld yma.

“Exploring and Expanding Supererogatory Acts: Beyond Duty for a Sustainable Future”, wedi’i gyhoeddi yn y Journal of Business Ethics ac mae ar gael i'w weld yma.

Rhannu’r stori hon