Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Logisteg y Filltir Olaf

22 Awst 2022

Institute of mathematics logo

Mae rhifyn arbennig newydd o’r enw ‘The Future of Last-Mile Logistics’ newydd gael ei gyhoeddi. Mae wedi’i drefnu gan IMA Journal of Management Mathematics a’i olygu gan yr Athrawon Emrah Demir ac Aris Syntetos (Prifysgol Caerdydd) ynghyd â’r Athro Tom Van Woensel (Prifysgol Technoleg Eindhoven),

Mae'r pum cyfraniad at y rhifyn arbennig hwn yn rhoi sylw i broblemau ac atebion mathemategol newydd sy'n gwella dealltwriaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau o’r tueddiadau a’r datblygiadau arloesol diweddaraf ym maes logisteg y filltir olaf.

Beth sydd dan sylw yn y rhifyn arbennig hwn? Pwy a ddylai ei ddarllen, a pham?

Mae'r rhifyn arbennig hwn yn dwyn ynghyd pum erthygl sy'n gwthio ffiniau ymchwil cludiant. Maent yn gwneud hyn drwy daflu goleuni ar y cyfleoedd a’r heriau y gall technoleg ac arloesedd eu creu ar gyfer cwsmeriaid a’r diwydiant drwy gymorth mathemateg.

‘Y filltir olaf' yw cam olaf y broses gludo, pan fydd nwyddau o warws (canolog) yn cael eu cludo i ddrws y cwsmer. Mae'n rym mwyfwy pwerus sy’n ail-lunio rhwydweithiau cyflenwi ledled y byd. Mae cwsmeriaid am gael y cynhyrchion yn brydlon, a gallai sicrhau bod hyn yn digwydd fod yn anodd iawn i'r darparwyr gwasanaethau logisteg oherwydd ansicrwydd a heriau gwahanol. Ar yr un pryd, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau logisteg gydymffurfio ag Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Mae’r angen i gynnig modelau mathemategol, strategaethau, gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau logisteg yn cynyddu er mwyn eu helpu i gynllunio.

Dylai academyddion, ymarferwyr yn y diwydiant a phartïon eraill sy’n ymwneud â logisteg y filltir olaf ddarllen y rhifyn arbennig hwn. Gall yr algorithmau pwerus sydd i’w gweld yn y rhifyn hwn helpu i fynd i'r afael â heriau trefoli a datblygu cynaliadwy.

Beth yw barn Golygyddion Gwadd am y rhifyn arbennig hwn?

Golygyddion Gwadd: Emrah Demir (Prifysgol Caerdydd), Aris Syntetos (Prifysgol Caerdydd) a Tom Van Woensel (Prifysgol Technoleg Eindhoven)

“Mae logisteg y filltir olaf yn dod yn llawer mwy na rhywbeth er cyfleustra’r defnyddiwr ac ymarfer optimeiddio’r broses gludo. Yn hytrach, mae’r maes hwn yn rhoi cyfle gwirioneddol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol ac amgylcheddol. Mae cyfle gwych gennym i wneud newidiadau a gwella sut mae nwyddau’n cael eu cludo. Wrth ystyried gwendidau’r systemau logisteg, mae angen i’r diwydiant logisteg wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael i sicrhau dyfodol cynaliadwy i bawb. Mae'r rhifyn arbennig hwn yn gwneud cyfraniad pwysig drwy ystyried y datblygiadau technolegol, cymdeithasol a masnachol arloesol i fynd i’r afael â hyn.” Yr Athro Emrah Demir

“Hoffem ni ddiolch i'r Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA) am yr ysgogiad a’r ysbrydoliaeth i gyhoeddi’r rhifyn arbennig hwn. Gyda’i gilydd, mae’r erthyglau’n dangos cwmpas gwych mathemateg i gyfrannu at agenda cynaliadwyedd llywodraethau a’r diwydiant. Gobeithio y bydd y papurau hyn yn ddefnyddiol i chi, yn procio’r meddwl ac yn dylanwadu ar eich ymchwil a’ch ymarfer.” Yr Athro Aris Syntetos

“Mae logisteg y filltir olaf yn dal i fod yn bwnc pwysig – mae’r holl bapurau ymchwil a gyhoeddwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn dystiolaeth o hyn. Mae hefyd yn bwysig yn ymarferol, wrth i ni weld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl sy’n prynu nwyddau ar-lein, parthau gwyrdd yn cael eu cyflwyno mewn dinasoedd, cerbydau tanwydd confensiynol yn cael eu gwahardd, ac ati. Mae'r papurau yn y rhifyn arbennig hwn i gyd yn ychwanegu bloc adeiladu pwysig at y maes hwn – ymchwil ac ymarfer logisteg y filltir olaf – sy’n datblygu’n gyflym.

Tom Van Woensel

Professor Tom Van Woensel

Eindhoven University of Technology

Beth yw cynnwys y rhifyn arbennig hwn?

Mae'r rhifyn arbennig yn cynnwys yr erthyglau canlynol.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhifyn arbennig ar gael ar wefan IMA Journal of Management Mathematics.

Rhannu’r stori hon