Ewch i’r prif gynnwys

Ysgolion cynradd yn barod am becynnau cymorth iaith newydd

5 Medi 2022

Mae pecyn cymorth Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cynnwys archarwyr ieithoedd rhyngwladol yn fasgotiaid.
Mae pecyn cymorth Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cynnwys archarwyr ieithoedd rhyngwladol yn fasgotiaid.

Mae pecyn cymorth iaith rhad ac am ddim i gefnogi ysgolion cynradd i lywio cyflwyniad y Cwricwlwm Newydd i Gymru wedi cael ei lansio gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru.

Mae'r pecynnau cymorth wedi eu creu er mwyn cynorthwyo ysgolion cynradd i gyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol yn rhan o'r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Llenyddiaeth newydd ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2022. Fe'u datblygwyd gan Meleri Jenkins, Cydlynydd Prosiect Llwybrau Cymru a Jo Morgan a Susanne Arenhovel, Datblygwyr Pecyn Cymorth Cynradd, ac mae gan bob un ohonyn nhw brofiad helaeth o weithio gydag ieithoedd mewn ysgolion a gyda sefydliadau dysgu iaith.

O dan y cwricwlwm newydd, bydd ieithoedd rhyngwladol yn cael eu haddysgu i ddisgyblion o Flwyddyn 5 ymlaen. Mae dechrau addysg ieithoedd rhyngwladol o Flwyddyn 5 yn gyfle i hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau a datblygu meddylfryd iach rhyngwladol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae manteision economaidd a chymdeithasol clir i addysgu’r sgiliau hyn ac mae'n hyrwyddo agwedd fyd-eang yn enwedig i ddisgyblion mewn cymunedau difreintiedig.

Esboniodd Cyfarwyddwr Academaidd Llwybrau Cymru Dr Liz Wren-Owens, "Mae cwricwlwm newydd Cymru yn newid sylweddol i athrawon, gyda nifer ohonynt heb brofiad na hyder wrth addysgu ieithoedd rhyngwladol. Mae pandemig COVID-19 wedi dwysáu’r her hon – mae’r amser a oedd gan ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd wedi gorfod cael ei ddefnyddio i gynllunio a rhoi addysg o bell.”

Mae’r pecynnau cymorth wedi ennyn diddordeb brwd gan 180 o ysgolion ledled Cymru yn barod. Maent yn cynnwys chwe Chyd-destun Dysgu, ac ynghyd â’r iaith graidd, maent yn cynnwys tasgau a gweithgareddau cyfoethogi sy’n cysylltu â Meysydd Dysgu a Phrofiad a themâu trawsbynciol eraill. Yn bwysicaf oll, mae’n cynnwys canllaw addysgegol ar gyfer athrawon ysgol gynradd ar sut i gyflwyno'r gwersi a'r gweithgareddau.

Hyd yn hyn, mae'r pecynnau cymorth ar gael yn Ffrangeg a Sbaeneg a bydd Almaeneg ar gael yn fuan.

"Yn ogystal â chysylltu'r gweithgareddau â'r Cwricwlwm Newydd, mae'r pecyn cymorth hefyd yn cynnwys canllawiau ar bethau syml megis ynganu geiriau," meddai Dr Wren-Owens. "Gall hyn fod yn ddefnyddiol i athrawon sydd heb yr iaith, neu sydd heb ei defnyddio ers amser maith."

Gall ysgolion cynradd yng Nghymru ofyn am gopi o'r Pecyn Cymorth Cynradd Ieithoedd Rhyngwladol ar wefan Llwybrau at Ieithoedd Cymru.

Prosiect allgymorth cydweithredol ar draws Cymru yw Llwybrau at Ieithoedd Cymru sy'n hyrwyddo gwelededd, dewisiadau a phroffil ieithoedd mewn ysgolion yng Nghymru.  Ysgol yr Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd yw'r sefydliad cydlynu cenedlaethol ar gyfer y project.

Rhannu’r stori hon