Ewch i’r prif gynnwys

Ysgolhaig cyfraith hawliau dynol rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd yn ymgymryd â rôl yn Swyddfa Dramor y DU

12 Medi 2022

Mae uwch-ddarlithydd yn y gyfraith yn rhan o grŵp o academyddion a ddrafftiwyd i adrannau llywodraeth y DU i gynorthwyo yn y gwaith o fynd i'r afael â heriau cyfoes sy'n wynebu'r DU.

Mae'r ysgolhaig a'r ymarferydd cyfraith hawliau dynol rhyngwladol, Dr Sejal Parmar, yn un o ddim ond 21 o academyddion sydd wedi'u penodi'n ddiweddar yn gymrodyr polisïau yn adrannau llywodraeth y DU ac un o ddim ond tri chymrawd polisïau yn Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) y DU. Mae cymrodoriaeth Dr Parmar yn yr FCDO yn canolbwyntio ar bolisi tramor a thwyllwybodaeth.

Mae cymrodoriaeth Dr Parmar yn cael ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) yn rhan o raglen sy'n rhoi’r cyfle i ymchwilwyr academaidd ar ddechrau ac ar ganol eu gyrfa weithio yn adrannau'r llywodraeth ar feysydd sy’n flaenoriaeth uchel – gan gynnwys sero net, adfer yn dilyn COVID-19, iechyd a gofal cymdeithasol, ffyniant bro a pholisïau diogelwch tramor a chenedlaethol – dros gyfnod o 18 mis. Bwriad y rhaglen yw 'gwella'r berthynas rhwng y byd academaidd a'r llywodraeth drwy wella llif y dystiolaeth, y gytser o gipolygon a’r talent' a 'helpu i gyflawni potensial ymchwil ac arbenigedd cymdeithasol, economaidd, y celfyddydau a'r dyniaethau i lywio a llunio polisi cyhoeddus effeithiol a'i weithredu'. Mae'n rhan o ymrwymiad ehangach ESRC ac AHRC i 'hwyluso cysylltiadau dyfnach a mwy parhaus rhwng ymchwilwyr a llunwyr polisïau'.

Wrth siarad am ei phenodiad, dyma a ddywedodd Dr Parmar, “Mae'r gymrodoriaeth hon yn fy ngalluogi i ddeall prosesau llunio polisïau tramor y DU a dylanwadu ar bolisi tramor y DU ar un o faterion polisi hollbwysig ein hoes, sef twyllwybodaeth, a hynny o safbwynt cyfraith hawliau dynol rhyngwladol – ac mae’n fy ngalluogi hefyd i wneud hynny fel 'person ar y tu mewn' sy’n gweithio yn yr FCDO ei hun. Dyna gyfle a braint eithriadol i unrhyw ysgolhaig. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r FCDO am fy nghroesawu ac i'r ESRC a'r AHRC am gefnogi fy rôl.”

Penodwyd Dr Parmar yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym mis Mehefin 2022. Ar hyn o bryd mae hi ar absenoldeb academaidd o'r swydd hon wrth iddi ymgymryd â'i chymrodoriaeth yn yr FCDO.

Rhannu’r stori hon