Ewch i’r prif gynnwys

Mae myfyriwr Peirianneg wedi ennill y fedal arian i Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad

18 Awst 2022

Mixed Relay Triathlon team. Pictured left to right: Iestyn Harriet, Olivia Mathias, Dominic Coy, and Non Stanford.

Mae Dom Coy wedi ennill y fedal arian i Dîm Cymru yn y Triathlon Cyfnewid Cymysg yng Ngemau'r Gymanwlad 2022.

Enillodd y myfyriwr peirianneg sifil ac amgylcheddol y fedal arian y tro cyntaf iddo gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad – ar y cyd â’r rhedwyr eraill yn y tîm Non Stanford, Iestyn Harriet ac Olivia Mathias. Roedd yn frwydr yn un go agos tan y diwedd. Amser gorffen tîm y ras gyfnewid oedd 1:17:26, dim ond 3 eiliad ar y blaen i Awstralia a gipiodd y trydydd safle.

Ar ôl cystadlu yn y triathlon am y tro cyntaf pan oedd ond yn wyth mlwydd oed, mae'r myfyriwr 20 oed wedi symud yn ei flaen drwy'r rhengoedd iau gyda rhagoriaeth. Daeth yn y 3ydd safle yn Sbrint Iau Pencampwriaethau Cenedlaethol y Triathlon 2021 ac yn 3ydd ym Mhencampwriaethau Iau Triathlon y Byd yn Quartiera yn 2021. Bu Coy hefyd yn cystadlu yn Nhriathlon Unigol y Dynion yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 pan ddaeth yn y deunawfed safle.

Roedd Dom yn byw yn Swydd Efrog cyn mynd i Brifysgol Caerdydd, lle mae newydd orffen ail flwyddyn gradd meistr integredig Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol fydd yn para am bedair blynedd.

Dyma a ddywedodd am ei brofiad o gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad: “Roedd yn sicr yn rhywbeth na fydda i byth yn ei anghofio. Rwy'n methu credu o hyd mai fi oedd mas ‘na ar y cae ras, heb sôn am y podiwm. Roedd y cymorth a gefais i gan bawb yno yn wych, ac roedd yn bendant o gymorth mawr o ran hyrddio pob un ohonon ni ymlaen, a’r gwir amdani yw bod y cwbl wedi bod yn arbennig iawn.”

“Roedd y tîm cyfan yn hynod falch o'r canlyniad. Y disgwyliadau ymlaen llaw oedd bod gynnon ni ryw obaith o gipio'r trydydd safle pe bai pethau'n mynd yn berffaith. Gwnaethon ni ragori ar ein disgwyliadau mwyaf un hyd yn oed. Roedd hi'n ben-blwydd ar ein hyfforddwr hefyd, felly dyna braf. Ar y cyfan, rwy wrth fy modd gyda'r canlyniad. Mae’n rhaid inni ail-greu’r perfformiad hwnnw y tro nesaf yn Victoria yn 2026!”

The winning teams take to the podium.

Gall peirianneg fod yn bwnc heriol i'w astudio, felly gofynnon ni i'r athletwr ifanc sut mae'n cydbwyso gorfod astudio â hyfforddi.

Dyma a ddywedodd wrthon ni: “Nid yw'n hawdd cydbwyso fy nghwrs peirianneg â hyfforddi. Rwy'n hyfforddi am 20-25 awr yr wythnos ar ben fy astudiaethau. Yn gyffredinol, drwy gynllunio ymlaen llaw a defnyddio fy amser yn effeithiol rwy'n gallu gwneud popeth. Ar adegau bydda i’n gwneud ryw fymryn llai o hyfforddi pan fydd fy llwyth gwaith yn fwy ac fel arall felly pan fydd cystadleuaeth bwysig ar y gweill.”

Mae Canolfan Perfformiad Triathlon Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Partneriaeth yw’r Ganolfan rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Thriathlon Cymru. Mae Coy yn rhoi pob clod i'r grŵp hyfforddi yng Nghymru am ei wella.

“Yn sgîl y ffaith fy mod i’n mynd i Brifysgol Caerdydd a bod y ganolfan hyfforddi a'r garfan wrth law, rwy’n credu bod hyn oll yn bendant wedi cael effaith fawr ar fy hyfforddiant. Rwy'n mwynhau hyfforddi gartref ac mae'n lle gwych i hyfforddi, ond yma [yng Nghaerdydd] mae'n llawer mwy penodol i'r hyn sydd ei angen arna i. Mae llawer mwy o gyfleoedd i fod yn gyson ac i wneud hyfforddiant pwrpasol gyda phobl eraill. “

Dom competing in his first Commonwealth Games.

Mae Dom wedi cynllunio rhagor o rasys ar gyfer eleni, gan gynnwys dau ddigwyddiad Super Series Prydain a Ras Cwpan Ewrop ym Mhortiwgal.

Braf iawn yw gweld bod ein myfyrwyr Peirianneg mor llwyddiannus. Da iawn, Dom. Rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant ichi yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon