Ewch i’r prif gynnwys

“Cynildeb cyfansoddiadol” Llywodraeth Cymru yn unigryw yn y DG

1 Gorffennaf 2022

Welsh flag

Mae erthygl academaidd newydd gan Dr Gregory Davies a'r Athro Daniel Wincott o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, wedi amlinellu amwysedd Llywodraeth Cymru tuag at sofraniaeth y DG, gan nodi bod gan Gymru safle unigryw yng ngwleidyddiaeth diriogaethol y DG.

Fodd bynnag, mae’r awduron yn dadlau yn y cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru yn atal rhag gwrthod sofraniaeth San Steffan yn llwyr, gan dynnu sylw at enghreifftiau o broses Brexit lle ceisiodd wella cysylltiadau rhynglywodraethol yn ffordd o ddiwygio’r undeb.

Mae'r erthygl, a gyhoeddir ar-lein gan y British Journal of Politics and International Relations, yn cyfleu polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru yn un sy'n cynnwys cystadleuaeth sofraniaeth seneddol ac awydd i'w addasu trwy ddiwygio systemig. Ond mewn gwirionedd mae deddfwriaeth ôl-Brexit megis ar ffurf Deddf y Farchnad Fewnol a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas y Dyfodol) wedi ailddatgan sofraniaeth San Steffan ar draul y llywodraethau datganoledig.

Gyda diwygiad cyfansoddiadol ledled y DG y tu allan i reolaeth Llywodraeth Lafur Cymru, mae'r erthygl yn rhybuddio y gallai'r weinyddiaeth gael ei ddal rhwng grymoedd a allai fod yn bwerus megis annibyniaeth yr Alban, cefnogaeth i Gymru annibynnol, a llywodraethiant parhaus y blaid Geidwadol ar lefel y DG.

Rhannu’r stori hon