Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Digartrefedd a Phobl LHDTC+ yng Ngwent yn dod i’r brig yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant Wales Online 2022

17 Awst 2022

Mapping LGBTQ+ Housing experience across the UK and NI
Mapping LGBTQ+ Housing experience across the UK and NI

Mae'r darlithydd Dylunio Trefol, Dr Neil Turnbull, yn aelod o'r tîm ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant Wales Online 2022.

Canlyniad y bartneriaeth gyda’r elusen cydraddoldeb dai Tai Pawb a Dr Edith England o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yw'r prosiect ymchwil buddugol, sef 'The Homelessness and LGBTQ+ People in Gwent' a'i nod yw sicrhau gwell dealltwriaeth o’r problemau penodol y mae Pobl LHDTC+ sy'n delio â digartrefedd yn eu hwynebu, a hynny ar gyfer awdurdodau lleol Gwent. Enillodd y prosiect y categori “Hyrwyddwr /Menter neu Ymgyrch LHDTC+ y flwyddyn” yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant Wales Online 2022. Nod y gwobrau yw rhoi rhagor o sylw i ymroddiad eithriadol y bobl sy'n ymladd dros degwch mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae Dr Turnbull a Dr England yn ehangu eu hymchwil hefyd drwy gynnal prosiect ledled y DU. Mae rhan o'u prosiect presennol yn canolbwyntio ar arolwg, y mwyaf o'i fath, i ddeall beth sy'n achosi problemau tai/digartrefedd o ran pobl LHDTC+ a’r hyn fydd yn helpu i ddatrys y materion hyn. Mae'r tîm yn apelio am bobl LHDTC+ 18 oed neu’n hŷn, ac sy'n byw yn y DU i lenwi'r arolwg. Bydd y canfyddiadau'n helpu i awgrymu ffyrdd o wella gwasanaethau tai a digartrefedd i bobl LHDTC+.

Ar hyn o bryd, mae Dr Neil Turnbull yn darlithio ar yr MA Dylunio Trefol a gyflwynir ar y cyd gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Nod y rhaglen hon yw galluogi ymarferwyr ac ysgolheigion i drawsnewid maes dylunio trefol drwy feddwl yn gritigol ac ymarfer creadigol. I gael gwybod rhagor am y cyrsiau sydd ar gael yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ewch i'r wefan.

Cymerwch yr arolwg

Rhannu’r stori hon