Ewch i’r prif gynnwys

Newid y sgwrs; sut i drafod rhyw a pherthnasoedd gyda phobl ifanc

10 Awst 2022

Children learning in a classroom
Children learning in a classroom

Ar ôl ymgymryd â chryn dipyn o ymchwil i sut y caiff babanod a phlant ifanc eu dysgu am berthnasoedd, rhywioldeb ac iechyd, cydnabu Clare Bennett fod rhieni a gofalwyr yn aml yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o offer i gael sgyrsiau gyda babanod a phlant am y materion hyn, a bod angen mwy o gymorth arnynt i wneud hynny.

Wedi'i hysbrydoli gan ganfyddiadau ei hymchwil, bu Clare yn gyd-awdur ar ddau lyfr, a gynlluniwyd i gefnogi rhieni, gofalwyr, athrawon, nyrsys ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phlant.

Mae'r llyfrau hyn bellach wedi'u cyhoeddi yn y DU, UDA, Canada ac Awstralia, ac wedi cael eu mabwysiadu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio ar draws Affrica, Bangladesh a Tsieina.

Mae'r llyfr cyntaf 'Can I have babies too?', yn archwilio'r heriau wrth gyfathrebu oedolion-plant am rywioldeb ac yn darparu cyngor defnyddiol ar sut i sefydlu deialog agored gyda phlant hyd at 11 oed.

Mae'r ail lyfr, 'Going beyond 'The Talk', yn cynnig arweiniad a chyngor ar sut i gyfathrebu'n well â phobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed am berthnasoedd a rhywioldeb.

Drwy grant ar y cyd gan Gymrodoriaeth Churchill a Chronfa Symudedd Sefydliadol ERASMUS+ Prifysgol Caerdydd, llwyddwyd i ddatblygu'r ddau lyfr hyn, a gyd-ysgrifennwyd gan Clare a dau gydweithiwr o'r Iseldiroedd sy'n arbenigwyr mewn addysg perthnasoedd a rhywioldeb.

Mae Clare Bennett yn Ddarllenydd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, ac mae hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr ar gyfer Canolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru. Mae adolygiadau o'r llyfr wedi bod yn gadarnhaol iawn:

'Fel rhiant a seicotherapydd, ro'n i'n credu bod y llyfr hwn yn ganllaw ffres sy'n tawelu'r meddwl am addysgu plant am eu cyrff, rhyw a thu hwnt. Gall llawer deimlo eu bod wedi'u llethu neu'n methu â siarad â'u plant am y materion hyn. Mae'r llyfr hwn yn cynnig gobaith ac yn gwneud y berthynas rhwng y rhiant a'r plentyn yn ganolog er mwyn rhoi perthynas realistig a phositif i blant gyda'u cyrff, eu synhwyrau a'u rhywioldeb yn y pen draw. Rwy'n ei argymell yn fawr.' Erica Esmail-Rath, Seicotherapydd MFT sy'n gweithio yn San Francisco, California.

'Mae'r canllaw cynnes hwn ar sail tystiolaeth yn llawn gwybodaeth, ac mae cynwysoldeb wrth ei wraidd. Byddai'n ddefnyddiol i bob oedolyn ei ddarllen sy'n dymuno cyfathrebu â'u pobl ifanc yn eu harddegau am berthnasoedd, rhywioldeb, hunaniaeth a gwerthoedd fel erioed o'r blaen. Bydd yn eich herio ac yn rhoi sicrwydd yn yr un modd.' Katy Thomas, ymchwilydd addysg perthnasoedd a rhywioldeb, athrawes, mam i bedwar, Awstralia.

Rhannu’r stori hon