Ewch i’r prif gynnwys

Mae myfyriwr MSc Mega-adeiladau Cynaliadwy yn rhan o'r tîm buddugol yn Her Ddylunio’r Prifysgolion: TDUK Hereford Southside 2022

8 Awst 2022

The 'Wye Not Wood' team
The 'Wye Not Wood' team

Enillodd y myfyriwr MSc Mega-adeiladau Cynaliadwy Deepak Sadhwani a'i dîm 'Wye Not Wood’ y wobr gyntaf yn Her Ddylunio’r Prifysgolion: TDUK Southside Hereford 2022.

Cofrestrodd mwy na 150 o fyfyrwyr o 57 o brifysgolion i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Yn y gystadleuaeth, roedd yn rhaid i dimau ddylunio canolfan gymunedol sero net a oedd yn seiliedig ar brosiect byw ac yn hynodi gwaith adeiladu â phren, ac sy’n bodloni Safon Passivhaus.

Dan arweiniad , mewn partneriaeth â Y Sefydliad Modelu Newydd er Technoleg a Pheirianneg (NMITE), ac Ymddiriedolaeth Passivhaus, dyluniodd myfyrwyr cyfredol yn ogystal â graddedigion 2021 ym maes yr amgylchedd adeiledig o brifysgolion ledled y DU adeilad unllawr sy’n sefyll ar ei ben ei hun, a hynny er mwyn ateb gofyn tri phartner amrywiol o ran eu dyheadau sero net. Ar ôl naw mis o weminarau, gweithdai a gwaith tîm rhyngddisgyblaethol, dewiswyd y tîm buddugol mewn digwyddiad deuddydd byw yn NMITE. Cyflwynodd y myfyrwyr eu dyluniadau (a hynny wyneb yn wyneb ac ar-lein) i Panel Beirniadu #TDchallenge22 oedd yn cynrychioli cleientiaid lleol a ffigurau blaenllaw ym maes adeiladu cynaliadwy yn y DU. Cafodd y cynigion eu beirniadu ar sail eu hirhoedledd, y galw amdanynt, eu gallu i addasu a bod yn gylchol yn ogystal â’r gallu i gynhyrchu rhagor o ynni adnewyddadwy na’r hyn sydd ei angen.

Canmolwyd cynnig buddugol y tîm am

  • Leihau'r swm angenrheidiol o bren drwy ddefnyddio uwch-strwythur pren distiau-I a all gynnal llwyth mawr, ar draws ffrâm LVL ac iddo drawstoriad bach ar gyfer darnau hir o do.
  • Cynnig casetiau pren ar gyfer y llawr ar sylfeini RapidRoot, sy'n helpu i leihau'r defnydd o ddur ac yn dileu'r angen i ddefnyddio concrit.
  • Creu ardaloedd mewnol yn yr adeilad sy'n cynnig hyblygrwydd gwirioneddol ar gyfer y dyfodol, a hynny er mwyn i’r cleientiaid newid y diwyg yn ôl yr angen.
  • Cynnwys llwyfan gwylio mezzanine i gryfhau’r gallu i bobl yn yr ystafelloedd dosbarth mewnol i weld y caeau pêl-droed allanol. Mae’r uchder ychwanegol yn gwella'r teimlad o le mewn cynllun llawr sy'n llwyddo i gyflawni llawer.
  • Mae’r adeilad yn nythu’n glyd yn nhirlun coediog presennol ei safle ar faes glas, ac yn ailddefnyddio coed wedi'u cwympo i greu deunyddiau pan fo hynny'n bosibl.
  • Herio'r gyllideb a chynnig sawl opsiwn.

Canmolodd y beirniaid y dull  sy’n gwella'r tebygolrwydd o allu bodloni safonau Passivhaus ac roedden nhw’n hoff o’r cynllun tirlunio o amgylch yr adeilad gan ei fod yn gwella bioamrywiaeth.

Daeth 'Wye Not Wood' â chriw rhyngddisgyblaethol o fyfyrwyr o nifer o brifysgolion o bob cwr o’r DU at ei gilydd, a llwyddon nhw i greu dyluniad oedd, yn ôl y panel beirniadu,yn: "Ymateb cryf sy’n cyfuno ffyrdd gwahanol o ddefnyddio’r adeilad mewn ffordd hynod effeithiol. Mae elfennau syml yn rhan o’r adeilad a cheir hefyd strwythurau pren a ddefnyddiwyd yn effeithiol i fodloni safon Passivhaus."

Dyma a ddywedodd Deepak Sadhwani, sy’n dilyn cwrs MSc Mega-adeiladau Cynaliadwy yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru:

"Dwi wedi cymryd rhan mewn llawer o gystadleuaethau dylunio yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ond hon oedd yr un fwyaf arbennig. Dyma'r gystadleuaeth ddylunio gyntaf imi fod yn beiriannydd gwasanaethau Ffiseg ac Adeiladu a chefais i’r cyfle i ddangos y sgiliau rwy wedi’u datblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd. Rwy'n ddiolchgar i Timber Development UK am arwain yr her mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Passivhaus, NMITE, a Phrifysgol Napier Caeredin, ac am roi'r cyfle i ni ddangos ein talent ar lwyfan rhyngwladol."

Llongyfarchiadau enfawr i bob un o’r enillwyr: Alice Senior (Prifysgol Portsmouth), Malwina Bartoszewicz (Prifysgol Napier Caeredin), Johanna Schwarting (Prifysgol Abertawe), Kyle Henderson (Prifysgol Robert Gordon), Daniela Lopez (Prifysgol Swydd Gaerloyw), Ali Uddin (Prifysgol Caeredin), a Deepak Sadhwani (Prifysgol Caerdydd).

I gael gwybod mwy am y rhaglenni ôl-raddedig sydd ar gael yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac i wneud cais, ewch i'n gwefan.

Rhannu’r stori hon