Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae archaeoleg yn datgelu’r economïau oedd yn cefnogi gwledda yn yr henfyd.

2 Awst 2022

Archaeoleg Caerdydd yn cymhwyso arbenigedd bioarchaeolegol clodwiw i ddinas-wladwriaethau a hunaniaeth Groeg yr henfyd

Mae ymchwil gan fioarchaeolegwyr Caerdydd yn cynnal yr astudiaeth amlsgalar gyntaf erioed o anifeiliaid a gwleddoedd yn y mileniwm cyntaf cyn Oes Cristnogaeth, gan ganolbwyntio ar ynys hunangynhaliolCreta, sydd wedi'i hastudio'n helaeth.

O anifeiliaid mewn gyrroedd ar y dirwedd i wleddoedd aberthol ar raddfa fawr, roedd anifeiliaid yn elfen ganolog  o ddatblygiad a gwydnwch gwladwriaethau dinasyddion yn y cyfnod hynafol hwn.

Mae The Zooarchaeology of Historical Crete: A Multiscalar Approach to Animals in Ancient Greece - a adwaenir fel arfer wrth yr enw ZOOCRETE - yn unigryw yn ei ddull o ymdrin ag archaeoleg swolegol Groeg y cyfnod hanesyddol, a dyma’r enghraifft gyntaf ar raddfa fawr o gyfuno’r dystiolaeth ynghylch anifeiliaid yn y cyfnod a’r rhanbarth dan sylw, yn ogystal â rhychwantu datblygiad sawl gwladwriaeth o ddinasyddion.

Drwy fabwysiadu dull rhyngddisgyblaeth o ymdrin â’r dystiolaeth ynghylch anifeiliaid ar Creta ac yng Ngroeg yr henfyd yn fwy cyffredinol, y nod yw sicrhau gwell dealltwrieth o drefniadau amgylcheddol a chymdeithasol y gwleddoedd torfol oedd yn sylfaen ar gyfer hunaniaeth ddinesig.

Er bod dadansoddiad isotop o weddillion dynol hynafol wedi hen ennill ei blwyf, mae cymhwyso'r dulliau dadlennol hyn yn faes sy'n dod i'r amlwg yn gyflym yn y cofnod archaeoleg swolegol.

Yn ZooCrete, mae'r ymchwilydd Dr Flint Dibble yn archwilio tystiolaeth ysgerbydol, biofoleciwlaidd a thestunol i gynhyrchu naratif ffres o'r dinesydd-wladwriaethau hyn. Mae'r prosiect yn ymchwilio i rôl gwleddoedd wrth sefydlu hunaniaeth gymunedol, yn archwilio'r rhyng-gysylltiadau o ran yr economi wleidyddol a'r amgylchedd naturiol, ac yn cymharu ac yn cyferbynnu'r dystiolaeth ynghylch anifeiliaid yng nghofnodion archaeolegol a thestunol Groeg yr henfyd.

Mae’r prosiect dwy flynedd yn archwilio tystiolaeth ysgerbydol anifeiliaid o safleoedd a gloddiwyd yn ddiweddar, gan greu’r dadansoddiad isotop cyntaf o weddillion creaduriaid o fyd hanesyddol Groeg yr henfyd ar raddfa fawr ar draws nifer o safleoedd, ac yn mabwysiadu dull dadansoddi dyniaethau digidol cydweddus yng nghyswllt anifeiliaid yn llenyddiaeth hynafol gwlad Groeg.

Wrth gynnal yr astudiaeth uchelgeisiol hon, nod yr archaeolegwyr yw:

  • datgelu sut defnyddid ffyrdd bwyd gan gymunedau lleol i lunio hunaniaethau cydlynol a rheoleiddio hierarchaethau cymdeithasol
  • canfod elfennau darpariaeth a natur dymhorol, er mwyn deall effaith magu anifeiliaid ar y dirwedd a gwir symudedd cymdeithas
  • gwerthuso'r berthynas rhwng y cofnodion swarchaeolegol a thestunol, gan gynnig casgliadau rhyngddisgyblaeth sy'n berthnasol i astudiaethau ffyrdd bwyd yn y byd Groegaidd a’r  tu hwnt

Yn arwyddocaol, mae'r prosiect yn symud ymlaen i gyfeiriadau newydd mewn archaeoleg, gan ymchwilio i dystiolaeth creaduriaid am wleddoedd hynafol, na astudiwyd rhyw lawer arni, i gynnig cynhyrchu anifeiliaid ar gyfer cynulliadau dinesig ar raddfa fawr fel arwyddion o wytnwch systemau dinas-wladwriaethau.

Mae’n cwmpasu mileniwm cyfan, o’r enghreifftiau cynnar o wladwriaethau’n trefnu i aberthu anifeiliaid ar raddfa fawr yn ystod y cyfnod Geometrig (tua 750CC) hyd at y bwtsiera masnachol a’r gwleddoedd dinesig mewn dinasoedd Helenistaidd ar Ynys Creta.

Mae ZOOCRETE yn adeiladu ar arwyddocâd hysbys gwleddoedd a ddatgelwyd mewn archaeoleg glasurol, ffynonellau testunol ac iconograffi, er mwyn ymhelaethu ar batrymau swpera defodol a’r adnoddau sylweddol sy’n ofynnol i gefnogi’r lleoliadau aruthrol a ddathlir heddiw.

Gan gyfuno archaeoleg a thestunau trwy ddulliau dyniaethau digidol unigryw, mae’r dull gweithredu rhyngddisgyblaeth hwn yn pontio meysydd gwyddor archaeoleg, hanes ac archaeoleg glasurol, gan fwydo i mewn i grwpiau ymchwil Archaeoleg Môr y Canoldir a Hanes yr Henfyd yn y brifysgol.

Mae’r astudiaeth newydd hon yn cynrychioli dull newydd arloesol o ddadansoddi sut cafodd cymunedau newydd eu ffurfio, a’u perthynas â’r amgylchedd naturiol drwy fynd ati i gyfuno dadansoddiadau gwyddonol newydd ag ymchwil swarchaeoleg Dr Dibble, a gwblhawyd yn ddiweddar, mewn cydweithrediad â sawl prosiect archaeolegol rhyngwladol.

Mae The Zooarchaeology of Historical Crete: A Multiscalar Approach to Animals in Ancient Greece, a gychwynnodd ym mis Medi 2021, yn cael ei ariannu gan Gymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie Actions, a ddyfarnwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd (rhif grant 101026314). Dilynwch #ZOOCRETE i gael gwybod am ganfyddiadau diweddaraf y prosiect.

Mae'r ymchwilydd Dr Flint Dibble yncanolbwyntio ar ffyrdd bwyd yng Ngroeg yr henfyd, gydag ymchwil sy’n cyffwrdd â threfoli, newid yn yr hinsawdd, defodau crefyddol, a bywyd pob dydd.

Rhannu’r stori hon