Ewch i’r prif gynnwys

Goruchafiaeth y blaid Lafur yng Nghymru i’w hegluro yn yr Eisteddfod

1 Awst 2022

Bydd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn cyflwyno darlith ar oruchafiaeth etholiadol y blaid Lafur dros Gymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni.

Bydd y ddarlith yn nodi can mlynedd ers Etholiad Cyffredinol 1922, sef y tro cyntaf i'r Blaid Lafur ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau a seddi yng Nghymru. Mae’r blaid wedi ailadrodd y gamp hon ym mhob etholiad cyffredinol a datganoledig ers hynny - record o lwyddiant heb ei hail yn unrhyw le yn y byd democrataidd.

Yn ei ddarlith, bydd y sylwebydd gwleidyddol a’r ysgolhaig, Richard Wyn Jones, yn defnyddio data o Astudiaeth Etholiadol Cymru i egluro gafael y Blaid Lafur ar etholwyr Cymru. Asesir y rolau a chwaraeir gan ddosbarth cymdeithasol, hunaniaeth genedlaethol ac ystod o ffactorau eraill, i ddod i gasgliadau a fydd yn arwyddocaol i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y blaid Lafur yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Cynhelir y ddarlith yng Nghymdeithasau 2, o 15:30-16:30, ddydd Iau 4 Awst, a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol yma.

Rhannu’r stori hon