Ewch i’r prif gynnwys

Santé! Un o raddedigion Caerdydd yn sicrhau ei swydd ddelfrydol mewn gwindy naturiol Ffrengig

29 Gorffennaf 2022

Eleanor Maudsley
Eleanor Maudsley

Bydd myfyrwraig ieithoedd modern yn teithio i Ddyffryn Loire yn Ffrainc ym mis Medi i ddilyn ei breuddwydion o weithio yn y diwydiant gwin, uchelgais a daniwyd yn ystod y pandemig.

Mae Eleanor Maudsley, sydd newydd gwblhau ei blwyddyn olaf yn astudio ein rhaglen llenyddiaeth Ffrangeg a Saesneg (BA), wedi sicrhau lleoliad mewn gwinllan yn Domaine La Taupe, gwindy naturiol ym mhentref Thésée sydd rhwng Tours ac Orléans.

Yn ystod cyfnodau clo 2021, roedd Eleanor, sy'n rhugl mewn Ffrangeg, yn byw ar ei phen ei hun yng Nghaerdydd ac nid oedd hi’n gallu teithio i Ffrainc am ei blwyddyn dramor. Yn ystod y cyfnod hwn defnyddiodd ei hamser i gwblhau arholiadau lefel 1 a 2 yr Ymddiriedolaeth Addysg Gwin a Gwirodydd (WSET).

Wrth sôn am y profiad hwn, dywedodd Eleanor, “Fe wnaeth fy nghariad at Ffrainc fy ngwthio i ddysgu rhagor am ddiwydiant gwin Ffrainc, diwydiant sy'n crynhoi hanes daearyddiaeth, bioleg, diwylliant a bwyd Ffrainc. Gan nad oeddwn yn gallu mynd ar fy mlwyddyn dramor, fe wnes i gwblhau rhaglen ar-lein gyda myfyrwyr gradd Ffrangeg eraill a byddwn yn trafod fy niddordeb cynyddol mewn gwin gyda nhw.”

O'r pwynt hwn, dechreuodd diddordebau allgyrsiol Eleanor ehangu i'w hastudiaethau, lle ysgrifennodd draethawd ar hanes rhywiaeth yn niwydiant gwin Ffrainc a'r newidiadau a wneir i'w cywiro ac yn ei blwyddyn olaf, gwnaeth ei chyflwyniad llafar Ffrangeg ar ddylanwad y diwylliant gwin Ffrengig yn fyd-eang ac yn Ffrainc heddiw.

Ar hyn o bryd mae Eleanor yn astudio ar gyfer ei harholiad WSET lefel 3 i baratoi ar gyfer mis Medi ac mae hi’n edrych ymlaen at symud i Ffrainc, diolch i'w hastudiaethau yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Dywedodd Eleanor, “Gydag amynedd a dyfalbarhad, mae fy nhwf personol wedi fy ngalluogi i symud i Ffrainc ac ymgolli mewn gwlad yr wyf wedi eisiau bod yn rhan ohoni erioed. Rwy'n teimlo'n barod i symud yno ac rwy’n gwybod y byddaf nid yn unig yn gallu sgwrsio’n dda yno, ond hefyd yn gallu gofalu amdanaf fy hun mewn gwlad dramor. Rwy’n gyfarwydd â’r diwylliant, ymhlith pethau eraill, yn well nawr nag yr oeddwn o'r blaen.”

Gan edrych i'r dyfodol, hoffai Eleanor ddilyn gyrfa fel sommelier neu fel newyddiadurwr gwin. Byddai'r olaf hefyd yn ei gweld yn cyfuno ei chariad at Ffrangeg, gwin ac ysgrifennu creadigol, hobi arall a ddatblygodd yn ystod y pandemig. Yn ddiweddar, enillodd Eleanor gystadleuaeth ysgrifennu creadigol Ffrengig a drefnodd Prifysgol Durham. Mae hi hefyd wedi cael ei derbyn i ddilyn cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Glasgow, y mae hi wedi ei gohirio nes iddi gwblhau ei lleoliad yn Ffrainc.

Rhannu’r stori hon