Ewch i’r prif gynnwys

Hanesydd yn dod yn Gymrawd yr Academi Brydeinig

26 Gorffennaf 2022

Cydnabod Athro Emeritws ym maes Hanes Economaidd am ei gwaith rhagorol

Mae'r Athro Pat Hudson eleni, ymhlith y nifer uchaf erioed o academyddion benywaidd i gael eu croesawu i Gymrodoriaeth yr Academi Brydeinig; croesawyd 29 academydd benywaidd - y gyfran uchaf o fenywod a ddewiswyd erioed, sef 56% o restr 2022.

Mae ei harbenigedd ymchwil nodedig ar y Chwyldro Diwydiannol yn ymdrin â phrosesau ac achosion diwydiannu; effaith trefedigaethedd ac imperialaeth ar endidau metropolitaidd; dosbarthiad incwm a chyfoeth ers y ddeunawfed ganrif; gwahaniaethau rhanbarthol; a methodoleg hanesyddol.

Bob blwyddyn mae’r Academi Brydeinig yn ethol hyd at 52 o ysgolheigion rhagorol o’r DU i’w Chymrodoriaeth; ysgolheigion sydd wedi cyflawni rhagoriaeth mewn unrhyw gangen o’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

Mae'r Cymrodyr newydd yn ymuno â chymuned o dros 1,600 o feddyliau blaenllaw sy'n ffurfio academi genedlaethol y DU ar gyfer y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Ymysg Cymrodyr presennol mae’r archeolegydd yr Athro Alasdair Whittle (Athro Emeritws Prifysgol Caerdydd), y clasurydd yr Athro Fonesig Mary Beard, yr hanesydd yr Athro Rana Mitter a'r athronydd yr Athro Farwnes Onora O'Neill.

Rhannu’r stori hon