Ewch i’r prif gynnwys

Amddifadu o Ryddid — ffilm newydd ar y cyd rhwng academydd ac artist

26 Gorffennaf 2022

Artist Grace Currie
Artist Grace Currie

Mae darlithydd yn y gyfraith yng Nghaerdydd ac artist niwroamrywiol wedi dod at ei gilydd gyda ffilm newydd i gyd-fynd ag ymgynghoriad y llywodraeth ar fesurau diogelu i'r rheini sydd angen gofal.

Mae'r Uwch-ddarlithydd yn y gyfraith, Dr Lucy Series a'r artist Grace Currie wedi cydweithio ar y ffilm, In the Shadows of the Institution i daflu goleuni ar fiwrocratiaeth cael eich dal mewn gofal cymdeithasol a helpu i wneud y pwnc yn hygyrch i bawb.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Dr Series y gyfrol Deprivation of Liberty in the Shadows of the Institution sy'n trafod mesurau diogelu i amddiffyn yr hawl i ryddid i'r rheini sy'n derbyn gofal a chymorth yn y 'gymuned'. Amcangyfrifir bod 300,000 o bobl yn y DU yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid oherwydd eu trefniadau gofal. Mae llawer ohonynt yn byw y tu allan i gyfyngiadau 'sefydliad', ond rhyddid cyfyngedig sydd ganddynt o hyd i wneud penderfyniadau amdanynt eu hunain, y gofal a dderbyniant neu eu dyfodol.

Watch In the Shadows of the Institution

Ym mis Mawrth, ymgynghorodd y llywodraeth ar ganllawiau ar gyfer mesurau diogelu newydd, gan ddisodli'r rhai sydd ar waith ar hyn o bryd gyda'r nod o ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau gofal yn well yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd Mesurau Diogelu Rhyddid newydd yn cael eu cyflwyno y flwyddyn nesaf, gan effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl.  Mae ffilm Dr Series a Grace wedi cael ei gynhyrchu i egluro cymhlethdodau'r mater ac i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r pwnc, cyn y gweithrediad hwn.

Dywedodd Dr Series, “Mae fy llyfr, heb os, yn hir ac yn gymhleth. Yn aml, dyw llyfrau academaidd ddim yn hygyrch iawn i ddarllenwyr anacademaidd, ond mae hon yn stori roeddwn i am i bobl eraill ei deall gan fod y mesurau hyn sy'n amddifadu rhyddid yn effeithio ar lawer o bobl."

Daeth Dr Series ar draws gwaith Grace ar Twitter a chysylltodd â hi i glywed mwy am ei phersbectif ar fod yn ddefnyddiwr gwasanaeth gofal. Mae Grace, sy'n niwroamrywiol yn dilyn anafiadau i'r ymennydd a gafodd mewn damwain draffig ddifrifol yn 2010, yn gweithio gyda phaentio a fideo ac, o ganlyniad i'w damwain, bellach mae angen cymorth arni.

Wrth siarad am ei phrofiadau, dywedodd Grace, “Rwy'n gweld y byd yn wahanol nawr i'r hyn roeddwn i'n ei weld ddeng mlynedd yn ôl.  Mae bod yn niwroamrywiol yn rhywbeth rwy'n ei dderbyn ac wedi ei oresgyn. Mae fy mhrofiadau i'n wahanol ac rwy'n ceisio cyfleu hyn yn fy ngwaith celf.”

Esboniodd Dr Series, "Roeddwn i'n teimlo y gallai fod gan Grace safbwynt ffres i'w gynnig ar y stori hon ac roeddwn i'n gweld o'i gwaith ei bod yn gallu cyfleu teimladau pwerus ac weithiau syniadau amwys."

Dechreuodd y ddwy gydweithio ar y ffilm yn 2021 ochr yn ochr â'r cwmni cynhyrchu Helter Skelter Media . Disgrifia'r tîm cynhyrchu, Viv a Chris  y ffilm a grëwyd fel "stori dylwyth teg gothig" sy'n cynnwys gwaith celf Grace a delweddau archifol i gyfleu cynnwys llyfr Dr Series. Gobaith Dr Series yw y bydd y ffilm yn dod ag elfennau technegol y pwnc yn fyw, ac i gynulleidfaoedd newydd.

Dywedodd, "Mae'r maes hwn o'r gyfraith yn llawn jargon a manylion technegol a gall ffilm osgoi llawer o hynny a mynd yn syth at y stori a'r ystyr a'r cwestiynau anodd rydym ni'n eu hwynebu heddiw.

Rwyf i am i bobl ddefnyddio'r ffilm i helpu pobl i ddeall sut y cyrhaeddon ni ble'r ydyn ni, a meddwl i ble rydyn ni'n mynd o'r lle hwn."

Roedd ffilm Dr Series a Grace yn bosibl oherwydd cyllid gan Wellcome lle bu Dr Series yn Gymrawd o 2017-2022.  Mae Grace yn parhau i gynhyrchu ac arddangos gwaith dan y teitl In the Shadows of the Institution a themâu cysylltiedig.

Rhannu’r stori hon