Ewch i’r prif gynnwys

Arweinydd Cerddorfa’r Brifysgol yn ymddeol

21 Gorffennaf 2022

Image of Mark Eager with baton in hand

Ar ôl 14 mlynedd yn cyfarwyddo Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd (CUSO) mae Mark Eager yn ymddeol fel arweinydd.

Ers 2008 mae Mark wedi mowldio’r Gerddorfa i fod ymhlith y mwyaf llwyddiannus o’i bath. Bu’n perfformio’n rheolaidd mewn sawl canolfan bwysig yng Nghymru a chynhyrchwyd 4 CD llwyddiannus. Hefyd cafwyd teithiau rhyngwladol yn Ewrop ac i Tsieina o dan ei gyfarwyddyd medrus.

Oherwydd ei rihyrsio manwl, ei wybodaeth eang o’r repertoire a’i ofal gyda manylion mae’r myfyrwyr wedi gallu perfformio gweithiau mawr a phwysig tebyg  i Belshazzar’r Feast gan  Walton, Spirit of England gan Elgar, Nawfed Symffoni Beethoven, Chweched Symffoni Tchaikovsky a llawer o symffoniau gan Mahler, a hynny mewn neuaddau fel Neuadd Hoddinott, Neuadd Dewi Sant, Eglwys Gadeiriol Llandaf ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Braint fawr i’r Gerddorfa oedd rhoi  perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Debussy a Jolivet. Digwyddodd hyn fel rhan o ŵyl City of Light: Paris 1900-1950 y Philharmonia yng Nghaerdydd yn 2016. Uchafbwynt cyfraniad y Gerddorfa oedd perfformiad o ddarn a seiliwyd ar amlinelliadau gan Debussy a recordiwyd ar y cryno-ddisg City of Light: New Discoveries a dderbyniodd adolygiad canmoladwy 4 * gan Geoff Brown yn The Times.

Cynhyrchwyd cryno-ddisgiau eraill gan y gerddorfa gan gynnwys Symffoni Rhif 1 gan Michael Csanyi-Wills, a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y myfyrwyr, a hefyd weithiau gan Liszt a  Robert Fokkens. Mark oedd y symbyliad a’r ysbrydoliaeth am lwyddiant y  mentrau arloesol hyn.

Image of Mark Eager conducting

Yn ogystal â mwynhau llwyddiant gartre’, mae’r Gerddorfa wedi cyflawni tair taith dramor. Yn y ddwy gyntaf cafwyd derbyniad gorfoleddus mewn sawl canolfan yn yr Almaen, fel Baden Baden,Wiesbaden Kurhaus a Heidelberg.

Llwyddodd y daith ddiweddaraf i Brifysgol Xiamen yn Tsieina i gryfhau’r berthynas rhwng Caerdydd a Xiamen a phrofwyd yno brofiadau diwylliannol ac artistig bythgofiadwy.

Yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol: “Mae dyled fawr gan Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd i Mark Eager. Mae ei fywiogrwydd, talent a gweledigaeth wedi bod yn sylfaenol er mwyn sefydlu’n Cerddorfa Symffoni  fel un blaengar iawn o’i bath. Ni all llawer o fyfyrwyr edrych yn ôl at gyfres o recordiadau o repertoire prin gan gyfansoddwyr hanesyddol a rhai presennol – llawer ohonynt yn berfformiadau cyntaf - ac a   gafodd dderbyniad gwresog; ac yn ogystal y profiad o deithiau tramor llwyddiannus a mentrus. ’Rwyf wedi cydweithio gyda Mark a’r Gerddorfa mewn llawer o gonsiertos i biano  ac ’rwyf bob amser wedi  edmygu ei rihyrsio gofalus a manwl, ei gerddgarwch amlwg a’i wybodaeth trylwyr o’r sgôr.”

Rhannu’r stori hon