Ewch i’r prif gynnwys

Buddugoliaeth yr ugain uchaf i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd

20 Gorffennaf 2022

Mae rhaglenni’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn Mhrifysgol Caerdydd wedi’u rhestru yn yr 20 uchaf yn y Complete University Guide eleni.

Mae’r ddwy ddisgyblaeth wedi codi yn safleoedd y rhestr ar gyfer 2023, ac mae’r gyfraith yn cyrraedd yr 20fed safle a gwleidyddiaeth yn codi 19 safle i rif 18.

Mae'r Complete University Guide yn gosod prifysgolion y DU mewn rhestr, mewn 70 o feysydd pwnc gwahanol, gan ddefnyddio nifer o fesurau gwahanol gan gynnwys profiad y myfyrwyr a pherfformiad academaidd.

Daw’r newyddion rhagorol hwn am ein safleoedd newydd wythnosau’n unig ers i’r ysgol ddathlu llwyddiant yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf pan osodwyd ymchwil y gyfraith yn y pymthegfed safle yn y DU, a phan gafodd ymchwil gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol y sgôr uchaf posibl o 4.0 am effaith.

Wrth siarad am y canlyniadau a gafwyd eleni, dyma a ddywedodd yr Athro Peter Sutch, Pennaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, “Mae bob amser yn braf gweld gwaith caled a llwyddiant cydweithwyr a myfyrwyr yn cael eu cydnabod fel hyn ac mae hwn yn gam pwysig wrth inni ddatblygu a gwella.”

Ychwanegodd Pennaeth y Gyfraith, Dr Richard Caddell, “Mae’r ffaith ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth am ein hymdrechion helaeth ar draws yr ysgol o ran hyrwyddo profiad y myfyrwyr yn ogystal â diwylliant gweithio a dysgu rhagorol, yn rhywbeth rydyn ni’n ei werthfawrogi’n fawr”.

Perfformiodd Prifysgol Caerdydd yn dda hefyd, gan gadw ei safle yn Brifysgol orau Cymru.

Rhannu’r stori hon